IX.
LLYDAWIAID YN ADDOLI.
“ | "Ac mi a glywais lef telynorion yn canu ar eu telynau." IOAN. Dat. xiv. 2. |
” |
YR oedd yn fore Sul tawel fel pe bai'r awyr Iach yn llawn o ysbryd addoli pan oeddym yn dringo i fyny, gyda thyrfa o Lydawiaid, tua hen eglwys drymaidd Lannion. Yr oedd y siopau yng nghauad, ond gwelem res hir o hen wragedd yn eistedd y tu ol i'w nwyddau yn lle'r farchnad; ac er nad oedd ond prin hanner awr wedi saith, yr oedd yno dyrfa o bobl o'r wlad, yn bargeinio'n galed. Arosasom ennyd ar y lle agored sydd o amgylch yr eglwys, i syllu ar bryniau coediog ffrwythlawn y mae Lannion yn eistedd ar eu godrau, ac i edrych ar y bobl yn ymdyrru i fyny. Yr oedd yn gofyn ymdrech i gredu nad yng Nghymru yr oeddym, oherwydd y tawelwch Sabothol, y golygfeydd, a'r wynebau. Yr oedd hen wraig o bobtu i'r drws wrth i ni fyned i mewn, pob un a chragen yn ei llaw, i dderbyn elusen. Yr oedd yr eglwys eang fel pe’n wâg, er cymaint ai iddi. Gwelem Lydawiaid yn addoli, — rhai ar eu sefyll a'u pennau'n grymedig, rhai ar eu gliniau ar y llawr cerrig oer, a rhai ar gadeiriau gwellt. Yr oedd yn well gennym ni y dull diweddaf, ac edrychasom o'n cwmpas am gadeiriau. Gwelem bentwr anferth ohonynt y tu ol i'r drws, a gwraig a dannedd melynion, pell oddiwrth ei gilydd, fel Gwrach y Rhibyn, yn eu gwylio. Trwy dalu dime, cawsom gadair a phenlinio'n esmwyth. Gellir penlinio'n esmwyth ymhob gwlad, trwy dalu. Wedi cael cadair, ceir esgus hefyd i edrych o gwmpas, heb i neb fedru ameu nad ydyw meddwl yr hwn edrycho yn gyfangwbl ar addoli. Wrth eistedd y mae'r gadair o'n hol, wrth benlinio y mae o'n blaen; ac wrth newid o ystum gweddio i ystum canu, beth sy'n fwy naturiol na thaflu golwg ar ein cydaddolwyr?