Gyda fod y gloch wyth yn tewi, clywem sŵn clocs lawer ar y llawr cerrig, a buan y llanwyd yr eglwys gan ferched, gydag ychydig ddynion wrth y drysau. Yr oedd pawb yn ymgroesi'n ddefosiynol wrth ddod i mewn, a gwelsom un hen wraig gam lawgauad, — yr oeddym wedi clywed ei sŵn yn bargeinio yn y farchnad, — yn rhoi ei basged i lawr, yn tynnu potel o'i phoced, yn llenwi'r botel â dwfr swyn, ac yn troi i ffwrdd cyn clywed gair o'r gwasanaeth. Dyletswydd deuluaidd ei thŷ fyddai gwneud i bawb roddi ei fys yn y botel, a gwneud arwydd y groes â'r dwfr.
Yr oedd pawb yn ddistaw pan ddechreuodd offeiriad fwmian gwasanaeth yr offeren yn Ffrancaeg, fel cacynen mewn bys coch. Yr oedd golwg darawiadol ar y dyrfa o wragedd mewn capiau gwynion, ac ambell i het Ffrengig goch yn eu canol, fel blodyn y gŵr drwg mewn cae o lygaid y dydd. Dyfnhaodd y distawrwydd pan oedd yr offeiriad yn cymuno, nid oedd dim i'w glywed, — yr oedd hyd yn oed yr awel fel pe wedi distewi, — ond tinc ariannaidd y gloch genid gan fachgennyn wrth droed yr allor. Wedi i'r offeiriad yfed o'r gwin, a thra'r oedd yn dweyd ei fod yn ymgysegru o'r newydd i Grist a'i groes, yr oedd dyn mawr yn cario plat alcan trwy'r eglwys, ac yn swnio'r ychydig ddimeuau oedd arno, i alw sylw. Y bobl dlotaf oedd yn taflu eu dimeuau — rhai heb feddu dime i gael cadair. Cofiwn, wrth eu gweled, mai à dimeuau fel hyn, — dimeuau cymun Llanddowror, — y cychwynwyd bywyd newydd ein hen wlad ni.
Rhaid cyfaddef ein bod ni wedi edrych llawer o'n cwmpas, ac yr oedd Llydawiaid yn rhyfeddu atom. Gwelsom ddwy o ferched ein gwesty ymysg y lliaws. Yr oedd Sian yng ngwisg lednais syml y Llydawesau, — cap gwyn a shawl ddu. Ond yr oedd Josephine wedi ymdrimio yn null balch y Ffrancod, — het wellt tawr a blodau ffamgoch arni, ambarelo'n garn i gyd, côt fach dwt, a byclau arian ar ei hesgidiau. Yr oedd Sian yn addoli'r offeren, ac yr oedd Josephine yn addoli