Sŵn ydyw canu, ac eto wele'r bobl yn cyhwfan o'i flaen fel pe bai awel. Y mae'r offeiriaid yn cychwyn o'r allor, ac yn cerdded yn araf drwy gorff yr eglwys, dan ganu. Yr oedd yno un offeiriad tal, a wyneb hardd meddylgar, ac yr oedd wynebau tewion daearol y lleill fel pe wedi eu gweddnewid. Yr oedd eu lleisiau ardderchog yn crynnu ac yn ymdonni mewn hwyl orfoleddus; a phan ddistawent hwy, canai'r organ dôn bruddglwyfus, fel adlais eu cân. Wrth glywed y "Gloria in excelsis," treiwn anghofio'r geiriau, tybiwn glywed torf Gymreig yn canu Tanycastell, teimlwn fod yn rhaid i mi naill ai gorfoleddu neu wneud peth arall na fedrais ei wneud erioed, rhoi ymarllwysiad i'm teimlad mewn cân, —
Yn y dyffryn tywyll garw
Ffydd i'r lan a'u daliodd hwy,
Mae'r addewid rad i minnau,
Pam yr ofna'm henaid mwy?"
Tybiwn fy mod yng nghanol tyrfa Gymreig pan fyddo'n teimlo, yng ngwres un o emynnau Ann Griffiths, fod y nefoedd yn wên i gyd, a iachawdwriaeth ar ei wynebpryd. Beth achosodd y cynhyrfiad hwn, wnai i bobl Lannion anghofio eu hunain mewn addoliad y bore Sul hwnnw? Hwyl yr offeren, dyna oedd. A dyna ydyw hanes yr hwyl Gymreig, — yr offeren wedi ei dwyn i'r awyr agored, ac wedi ei defnyddio i wasanaethu Crist yn hen symlrwydd ei efengyl. Y mae rhyw gyffyrddiad rhyfedd rhwng Calfiniaeth a Phabyddiaeth, y mae yr efengylwr Calfinaidd, wedi traethu gwirioneddau sy'n ddinistriol i gredo Eglwys Rhufen, yn rhoi tinc ar ddiwedd ei bregeth sy'n adlais o hen addoliad yr eglwys honno. Y mae atgofion am yr hen grefydd y bu Cymru'n ymhyfrydu ynddi, — fel yr ymhyfryda Llydaw'n awr, eto'n tyneru a phrydferthu ei haddoliad gwell, addoliad sy'n meddu symlder a difrifwch rhai'n ymwneud a gwirioneddau tragwyddol.