Y mae addoliad Pabyddol yn dlws a mawreddog, ond eto teimlwn mai drwy hud a lledrith yr oedd yr offeiriad yn effeithio ar y bobl. Y goleu crynedig, y canhwyllau, perarogl yr aberth, ysgogiadau araf y thuser, y gwisgoedd gorwych, y canu swynol, — hyn oll wnaeth i'r bobl ymgrymu fel pe i'r gwirionedd ei hun. Wrth weled y bobl yng ngorfoledd addoliad, meddyliais am ennyd fy mod yn gweled achos arall. Dychmygwn weled yr offeiriaid a'u gwisgoedd yn diflannu o'r allor, a gwelwn yn eu lle offeiriad Pabaidd wedi ei aileni a'i sancteiddio. Daeth ei wedd yn eglurach eglurach, a Joseph Thomas oedd. Gwelwn ynddo gyfuniad o bethau goreu Pabyddiaeth a Phrotestaniaeth, — swyn y naill a gwirionedd y llall; adnabyddiaeth y naill o holl droeon y galon ddynol, ac adnabyddiaeth y llall o feddwl Duw am bechadur; cydymdeimlad y naiil â dioddef, a llymder y llall at bechod; apeliai at deimladau'r galon, fel Pabydd, ac fel Protestant apeliai at y deall. Gallaswn dyngu y clywn ei lais yn darlunio Juda'n ymbilio dros Fenjamin, —
“ |
" Gad iddo fo fynd, 'rydw i wedi mynd i gyfamod a ’nhad y daw o'n ol; gad iddo fo fynd, 'feder yr hen ŵr fy nhad ddim byw hebddo fo; gad iddo fo fynd, mi af fi i'r carchar yn ei le." |
” |
Gallaswn dyngu fod y dyrfa'n dal ei hanadl wrth ei wrando'n darlunio porth y cenhedloedd, ac yn dychmygu clywed Iesu'n dweyd, — "Rhaid i mi farw, MAE'R CENHEDLOEDD YN GWASGU AR Y GIAT." Pa aberthu, pa ganu, pa ddarluniau fedrai wneud yn Aberth mor fyw a hyn?
"Felly deda inne;" — ond y mae llaw Ifor Bowen ar fy ysgwydd, a'i lais yn fy nghlust, — " Wyt ti ddim wedi synnu? Mae hyn fel cymun yng Nghymru. Gwrando, dene dôn fel St. John yn union." Ac ar hynny, dechreuodd fwmian canu gyda hwy,
"Ai Iesu mawr, ffrind dynol ryw,
A wela'i fry, a'i gnawd yn friw,
A'i waed yn lliwio'r lle;
Fel gŵr di bris yn rhwym ar bren,
A'i waed yn. dorthau ar ei ben?
Ie, f'enaid, dyma fe."