Ymgodai ambell i lais melys uwchlaw'r lleill, ac yr oedd teimlad yn troi chwyrniad y rhai ganent trwy eu trwyn yn fiwsig. Yr oedd yr ofîeiriaid fel pe wedi eu gorchfygu gan deimlad, ac unai'r bobl yn eu cân, gyda lleisiau isel esmwyth. Crwydrodd fy meddwl i wedyn, a phenderfjmais gofio rhai pethau y teimlwn eu gwirionedd. Yr wyf wedi bod jn meddwl am danynt ar ol hynny, ac yr wyf yn sicr eu bod yn wir.
Yn un peth, y mae addoliad Anghydffurfiol Cymru wedi cadw popeth gwerth ei gadw o hynodion Pabyddiaeth. Ar Galfiniaeth Cymru gwelir gwawr ei hen Babyddiaeth; ceir pregethau llymion Geneva, a chanu gorfoleddus Rhufen. Yr oedd y Diwygiad Protestanaidd ynddo ei hun yn rhy oer i Gymru, ni fynnid mo hono hyd nes i'r emynwyr ei gynhesu a'i dyneru. Ond wedi dyddiau Williams ac Ann Griffiths, y mae Anghydffurfiaeth Cymru'n rhywbeth gwell a chyfoethocach na Phrotestaniaeth noeth, y mae wedi ennill yn. ol bethau goreu yr hen grefydd hefyd. Medd y Beibl, — peth goreu Protestaniaeth; medd yr emynnau, — peth goreu Eglwys Rufen. Yr emynnau sicrhaodd grefydd Cymru; oni bai am Williams ac Ann Griffiths, ni chofiesid yn ein dyddiau ni am Rowlands Llangeitho a John Elias.
Yn ail, nid ydyw yr Uchel Eglwysyddiaeth y gwahoddwyd fi i'w weled mewn amryw fannau yn Lloegr yn ddynwarediad gwirioneddol o Babyddiaeth. Chware Pabyddiaeth ydyw, a chware dienaid iawn. Wrth weled addoliad Pabyddol, teimlwn ei fawredd, a thristawn wrth gofio nad ydyw'n dysgu i'r bobl feddwl; wrth weled addoliad Uchel Eglwysig, ni allwn lai na theimlo ein bod yn edrych ar ddynion yn gwneud gwaith plant, — chware, mewn tŷ teganau, y peth welsant ddynion yn ei wneud mewn tai. Nid rhyfedd fod Eglwyswyr