Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/75

Gwirwyd y dudalen hon

hwn a hwn," yn Llydaw darlunir y gwŷr fel 'gŵr hon a hon." Gwelsom lle gorwedd corff Yues Tyneve (Owen Tynewydd), gŵr Miriamme Bruv," yn ogystal ag "Isabella Yvonne Euen, gwraig Yues Person." Ni waeth pa mor bwysig oedd dyn, boed glochydd neu faer, gofelir dweyd pwy oedd ei wraig, — "Louis Brevet, clochydd Brelevenez, a gŵr Perrine Guegon"; "Joseph L'Hévède, maer Camlez, gweddw Marie Gabec; " "Isabella Piriou, gweddw Louis Ruic, a gwraig Jean Morvan." Gwelsom fedd syml un dyn y tybiai Ifor Bowen ei fod yn ddyn dedwydd, — "Jean Guyomar, hen lanc."

Eisteddasom ar wal y fynwent tan darawai'r cloc ddau, yr oedd yno gysgod coed ac awel, tra'r oedd pobl Lannion odditanom ymron deddfu gan y gwres. Clywem sŵn esgidiau pren y Llydawiaid yn dod i fyny'r grisiau cerrig, ac wrth edrych i lawr gwelem gapiau gwynion y merched a choryn hetiau'r dynion. Y mae cantel het Lydewig mor fawr, fel na welem, oddiuchod, ddim ond y hi, er y gwyddem fod dyn dani. Wedi cyrraedd, eisteddai'r dynion, yn ieuanc ac yn hen, ar fur y fynwent, i orffwys ac i weled y lleill yn tynnu i fyny. Aethom i'r eglwys, wedi gwrthod prynnu ffrwythau gan hen wraig oedd yn eu gwerthu wrth y drws, a chawsom hamdden i edrych o'n cwmpas cyn i'r gwasanaeth ddechre. Rhwng y bwau cerrig diaddurn gwelem aml rodd i sant yr eglwys, — llong gan ryw forwr fu mewn enbydrwydd ar y môr, blodeuglwm gan rywun gafodd waredigaeth ar dir, — a rhwng y colofnau yr oedd darluniau mawrion o olygfa ddwyreiniol, ond nid oedd yn eu mysg ddarlun i'w gymharu â'r olygfa welem drwy'r drws. Rhwng coesau merhelyg gwelem Lannion yn gorwedd yn dawel ar y gwastadedd odditanom, a'r haul poeth ar ei hystrydoedd, ond yr oedd yn oer hyfryd y tu fewn i furiau trwchus yr eglwys. Yr oedd corff yr eglwys yn llawn o ferched, yn gorffwys ac yn gweddio ar ol llafur caled yr wythnos, torri cerrig a medi a dyrnu. Cyn hir dechreuodd y dynion