Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/79

Gwirwyd y dudalen hon

XI.

MIN NOS SABOTH.

"C'est l'heure ou les enfants parlent avec les anges." —

VICTOR HUGO.

YR oedd addoliad Ann Santes wedi troi'n ffair wyllt — y plant wedi gadael allor y santes, ac yn sefyll, gyda'r defosiwn eto ar eu hwynebau, o flaen stondin fferins; y dynion yn pigo eu crymanau, a rhai ohonynt yn sefyll yn bur ansefydlog wrth wneud hynny, ac yn gwenu gwên lydan fel adlewyrch cwpanaid o win coch; y begeriaid yn bendithio'r gwragedd roddent ddimeuau yn eu dwylaw, ac yn tywallt melltithion ar y plant roddent iddynt ddyrnaid o gerrig eirin.

Nid mewn lle fel hyn y medrem ddisgwyl tawelwch nos Sul. Cerddasom i fyny ffordd hir Molaix, ar hyd bryn gweddol serth, ac yn bur fuan yr oeddym yn unigedd gwlad ffrwythlawn dlos. Nid oedd ond ambell fôd dynol i'w weled, yr oedd pawb yn Lannion yn cadw gwyl. Dywedodd hen berson plwy' doeth wrthyf unwaith fod adeg Sasiwn y Bala yn amser wrth ei fodd, — "bydd pawb yno," meddai, ond y bobl oreu gen i." Y llynedd cymerodd lleidr fantais ar absenoldeb y bobl, ac yr oedd llestri arian y persondy'n rhan o'r ysbail

Byth er hynny y mae'r person plwy yn cadw'i lygad ar y bobl oreu genno fo.

Wrth deithio ymlaen hyd y ffordd union, gwelem wraig unig yn sefyll, a buwch fraith yn pori gerllaw. Cyn hir gwelem fod llinyn rhyngddynt. Dynes ganol oed oedd y ddynes, deneu a gwelw, yn dechre crymu cyn ei hamser. Y mae ei hwyneb yn rhy brudd a gwasgedig