i fod yn brydferth, — na, daw gwên drosto, .y mae'n brydferth iawn. Wyneb meddylgar ydyw, yn dweyd hanes bywyd o weithio a phryderu dros eraill. Y mae ei dillad yn wael, nid iddi ei hun y mae wedi byw; y mae ei hwyneb yn dyner a phrydferth, — nid am dani ei hun y mae wedi meddwl. Gofynnais iddi yn Ffrancaeg pwy oedd. Ysgydwodd ei phen, ond gyda gwên garedig ar ei hwyneb. Yna treiais Gymraeg, gan gyfeirio at y 'fuwch, dafad,' 'caseg,' a dweyd ei bod yn 'Sul braf.' Dechreuodd hithau lefaru ar unwaith, gwyddwn fod ganddi galon lawn, ac yr oedd yn cymeryd diddordeb ynnom. Dywedasom ein bod wedi dod o'r gogledd, dros y môr. Yr oedd ganddi hithau frawd ym Mhen Pwl, tybed a oeddym yn ei adnabod? Clywais hen wraig yng Nghymru'n gofyn i un oedd newydd ddod o'r Amerig, — "y mae gen inne fachgen yn Sir Benfro, tybed na welsoch chwi o?" Daeth gwên dynerach nag o'r blaen dros wyneb y Llydawes wrth sôn am ei brawd, cofiai am lawenydd a dioddef ieuenctid. Byddaf yn meddwl fod merched yn dioddef mwy na dynion dros eraill, mae'n haws ganddynt aberthu, ymhyfrydant wrth deimlo eu bod yn dioddef dros rai a garant. Pe gwelsem y brawd ym Mhen Pwl, y mae arnaf ofn nad oedd ei chwaer gymaint yn ei feddwl ag oedd ef yn ei meddwl hi. Dyna fuasai nefoedd hon, nid gwlad lawn o seintiau ac offeiriaid a merthyron, ond gwlad lle mae'r rhieni byth yn ieuanc, a'r plant byth yn fach.*
Wrth deithio ymlaen, daethom at dŷ newydd rhyw ddegllath o'r ffordd. Gwelem hen ŵr yn camu dros y rhiniog, ac arosasom ef. Yr oedd yn fyr a cham, ac yn hobian, ond heb ffon; gwisgai het wellt ac esgidiau pren, ac yr oedd ei gôt laes yn cyffwrdd â'i arrau. Yr oedd gwên roglyd ar ei wyneb, a thybaco nid ychydig yng nghil ei foch.
“ | (* Le paradis, ce serait les parents toujours jeunes et les enfants toujours petits." — Victor Hugo.) | ” |