Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/81

Gwirwyd y dudalen hon
"A fedrwch chwi siarad Gallec?"
" Na."
"Mae gennych dŷ newydd braf."
"ia, ia, ty nefe braw."
" Dacw foch gwyn.
"ia, moch gwyn."
"Dacw ddeunydd gwin gwyn ar fur y tŷ."
"ia, gwin gwyn.
"Gwin rhudd ydi'r gore.

"ia," gyda gwên dyn yn teimlo ei fod yn dweyd gwir wrth ei fodd, "ia, gwin felli sy'i efed."

Synnwn ein bod yn deall ein gilydd mor dda, a thynnais lyfr allan i ysgrifennu'r brawddegau. Erbyn i mi godi fy mhen, yr oedd yr hen dderyn wedi dychrynnu, a gwelwn ef yn hobian ymaith, a'i ddwy law ar gefn ei gôt laes.

Daethom at dalcen tŷ tafarn bychan a chlywem gyfri yn yr ardd, — "unan, daou, tri, pefer, pemp, whech, seis, eeis, nao, dec." Rhois fy mhen dros y gwrych, a gwelwn tua dwsin o bobl yn chware. Pan welais gyfle, treiais dynnu ysgwrs, —

"Whare?"
"ia, whare bwlw."
"Whare am arian?"
"ia, ia, am arian."

Bachgen ieuanc tal lluniaidd oedd yn siarad â mi, morwr yn perthyn i'r llynges Ffrengig. Yr oedd wedi bod yn Aber Tawe, yn Fenis, ac yn China, lle y clwyfwyd ef, ac yr oedd wedi cael tri mis o wyliau i fendio. Daeth un arall atom, a mynnai ddweyd ei hanes yng ngwarchae Strasburg. Gadawodd pawb eu chware pan ddeallasant fod yno Gymry, ac yr oedd gan bob un ei air Llydewig i ofyn ai'r un peth oedd yn Gymraeg. Gwaith anuwiol ydyw chware bwlw ar nos Sul, ond yr oedd y bobl hyn yn garedig ac yn foneddigaidd. Gwelsom lawer Sais swta; digymwynas a hunanol oedd y rhan fwyaf o'r Ffrancod gyfarfyddem; ond ni welsom un Llydawiad anfoneddigaidd, cawsom garedigrwydd syml, a gwên ar bob wyneb trwy'r wlad.