Troisom yn ol ar hyd ffordd arall, ffordd oedd yn ymdroelli hyd ochr y mynydd, a'r troeon ymron a chyffwrdd â'i gilydd. Cynhir daeth Lannion i'r golwg odditanom, anadlai awel ysgafn drosti tuag atom, ac eisteddasom ar fin y ffordd i edrych ar y dref o dai henafol ymysg coed ar lan yr afon. Ar y drofa odditanom yr oedd amryw wragedd, a phlant yn chware, gan gadw gormod o sŵn, os gormod yw llawer. Oni bai am eu dadwrdd hwy, buasai tawelwch y Saboth yn gorffwys ar yr holl wlad eang o fryniau a dyffrynnoedd welem o'n blaen. Yn sydyn, clywsom dinc prudd ar y gloch fawr. Dyna bennau'r gwragedd yn crymu, ac yr oedd pob plentyn ar ei liniau mewn eiliad, a'i ddwylaw ymhleth, ar ganol y ffordd. "Cloch yr Angel " oedd, a gwyddwn rediad gweddi'r plant, —
“ | "Dyro i ni ras, o Dduw, fel yr adnabyddom ymgnawdoliad dy Fab, ac y'n dyger i ogoniant yr Atgyfodiad drwy ei ddioddef a'i groes.Yn ei enw Ef. Amen." | ” |
Eisteddais yn hir i wylio'r plant. Mae plant yn debig i'w gilydd ym mhob man, a disgwyliwn eu cael yn debycach hyd yn oed nag ydynt. Synnai Dafydd Rolant glywed plant yn siarad Saesneg ar gyffiniau Lloegr, a synnwn innau weled plant, a'u hwynebau Cymreig, ar eu gliniau wrth glywed cloch yr Angelus. Yr oeddwn yn ceisio dychmygu ym mhle yng Nghymru y bu plentyn yn penlinio olaf i ddweyd "gweddi'r Angel", pan glywn lais Ifor Bowen yn dadseinio o'r coed gerllaw, —
"Cymru, fy ngwlad, hen gartref y Brython,
Cartref y dewr, ei grud, ac ei fedd."
Yr oedd y gloch wedi tewi, ac yr oedd y plant yn methu dirnad beth oedd y llais o'r coed. Gwn am blentyn feddyliodd unwaith fod ei weddi wedi deffro'r taranau, er mawr ddychryn iddo. Y mae Cymru wedi bwrw ei choelbren gyda Lloegr, a Llydaw gyda Ffrainc, ers canrifoedd bellach, ond wele Lannion odditanaf eto'n