berffaith Lydewig, fel y mae'r Bala’n berffaith Gymreig. Rhoddwyd pob dylanwad ar waith i ladd y bywyd Celtaidd yn y ddwy, ond y mae'r plant yn dysgu'r hen iaith eto yn Llydaw ac yng Nghymru. Er hynny, nid yr un fu hanes y ddwy wlad. Ni orfodwyd Llydaw i ymostwng i Eglwys estronol, fel y gorfodwyd Cymru; ni rannwyd bywyd Llydaw, — y pendefig yn erbyn y gwerinwr, a'r gwerinwr yn erbyn y pendefig, — — fel y rhannwyd bywyd Cymru; ni chamesbonnir y Llydawr i'r Ffrancwr, fel y camesbonnir y Cymro i'r Sais; ymfalchia Ffrainc yn Llydaw, gan ddweyd mai'r morwyr Llydewig ydyw gogoniant ei llynges, tra dywed offeiriaid a barnwyr Seisnigaidd Cymru mai hyhi ydyw rhan wrthryfelgar Pryden a chywilydd ei llysoedd cyfraith. Ond gall Cymru ymorfoleddu yn ei gorthrymderau. Dioddefodd fwy o sarhad na Llydaw, ac am hynny y mae gwlatgarwch ei meibion yn llawer mwy effro heddyw. Dioddefodd orthrwm Eglwys faterol hyd nes yr anghofiwyd enw Crist ynddi," ond teimlodd hefyd rym diwygiad na theimlodd Llydaw mohono eto. Yr oedd arnaf finnau awydd diolch i Dduw, heb gloch, am gystuddio Cymru fel ei gwaredid, pan glywn lais Ifor Bowen draw ymhell, —
“ | " Collaist yr oll pan gollaist Lywelyn," | ” |
a phrysurais i lawr ar ei ol.
Troisom i mewn i eglwys Ann wrth fyned yn ol, — yr oedd wedi nosi weithian, — ac yr oedd ugeiniau o bererinion ar eu gliniau ar y llawr pridd. Yr oedd eu hanadl afiach wedi cymysgu â mwg aroglus y thuser, nes gwneud yr awyr mor glos fel na fedrem ni aros pum munud yno. Wedi cyrraedd ein gwesty cawsom hanes yr wyl.
- "A fydd gennych chwi wyliau yng Nghymru?"
- "Bydd, sasiynau y byddwn yn eu galw.
- "Fydd pobl yn meddwi ynddynt?
- "Na fyddant. Fe fyddent yn meddwi flynyddoedd yn ol, ond mewn rhyw Sasiwn fe roddodd John Elias feddwon y Sasiwn ar ocsiwn.