- "Pwy a'u prynnodd, y diafol? "
- "Nage, Iesu Grist."
- "O 'roedd yna ŵr yn curo'r wraig, wedi bod yn yr eglwys, ac wedi meddwi. Fydd y gwŷr yn curo'r gwragedd yng Nghymru?"
- "Na fyddant, 'dydi'r anuwiolaf ddim mor annuwiol a hynny. Ond, ers blynyddoedd yn ol, fe fyddai curo gwragedd yng Nghymru hefyd, fel y dywed yr hen bennill, —
"Llawer gwaith y bum i'n meddwl
Mynd i'r llan a gwario'r cwbwl,
Dwad adre'n feddw feddw,
Curo'r wraig yn arw arw.'
A dywedai Sian mai felly'n union y mae'r Llydawiaid yn gwneud yn awr. Yr oedd Josephine yno hefyd, ond heb yr het, a chawsom gryn ddifyrrwch wrth ei chlywed yn adrodd neilltuolion gwahanol genhedloedd. Y mae'r Saeson, ebai hi, yn sur a balch, ond yn onest a ffyddlon; y mae'r Cymry'n debig i'r Saeson, ond eu bod yn bruddach, ac yn bwyta llai; y mae'r Ffrancod yn anwadal, yn arw am bleser, yn anuwiol; y mae'r Llydawiaid yn dawnsio ac yn canu ac yn meddwi, ond y maent yn grefyddol iawn er hynny, ac nid fel y Ffrancod.
Meddyliwn wrth gysgu'r noson honno fy mod wedi cael Sul hir a llawn; a phan oedd y golygfeydd a'r dynion yn diflannu, y peth olaf welwn oedd y wraig unig, yn gwylio ei buwch ar y ffordd hir, ac yn gwenu wrth feddwl am ei brawd.