bob tŷ, gwelir teisi eithin, llyn chwid, a moch yn ymdorheulo; a chlywir arogl y rhedyn sy'n llosgi dan y crochanaid tatws. Trwy wlad o dai lliosog, daethom i La Clarte, pentre tlawd o dai gwael o amgylch eglwys hen. Pan ddaethom at y porth, gwelem ddyn yn eistedd o flaen drws mawr yr eglwys, ac yn ceisio tynnu lluniau'r cerfwaith carreg, — yr Iesu’n marw, y Forwyn a'i baban, y deial, — oedd ar y mur o'i flaen. Nid gwaith hawdd oedd hyn, oherwydd yr oedd tyrfa o blant a chŵn yn gwasgu arno o'r tu ol, ac yn cymeryd y diddordeb mwyaf yn y darlun, fel ag yr oedd yn rhaid i'r arlunydd druan fod ar ei ochel rhag i fys budr neu drwyn ci gyffwrdd â'i baent gwlyb. Pan ddaethom ni i'r golwg, cafodd yr arlunydd lonydd gan ei feirniaid, rhedasant oll i'n cyfarfod, y plant i fegio, a'r cŵn i ysgwyd eu cynffonnau. Cyn i'r begeriaid ein byddaru, daeth nifer o Ffrancod bach tewion diamynedd, a merched i'w canlyn yn gwasgar perarogl o’u sidanau, o gerbyd gerllaw. Rhuthrodd y dorf o fegeriaid ar draws ei gilydd at y rhai hyn, a chawsant un Ffrancwr hael, a dime i'w rhoddi. Yr oedd ugeiniau o ddwylaw diddaioni o'i flaen, ac ugeiniau o gegau yn dolefain disgrifiadau o ystad y tlawd. Aethom i borth yr eglwys, ac yr oedd llond y ddwy fainc o fegeriaid, yn murmur eu cwynfan wrth i ni fyned heibio. Y mae'r bobl hyn yn begio wrth eu tylwythau, — gwelsom nain a mam a merch yn estyn eu dwylaw am gardod ar unwaith. Gwelsom bobl dlodion garpiog yn gweithio'n galed, gwnaent unrhyw gymwynas inni, ac ni ddisgwylient, rhagor gofyn, am gardod. Ond am rai eraill, dysgant fegio oddiar y fron, — gwelsom lawer baban wedi ei ddysgu i estyn ei law fach oddiar fron ei fam, — ni wnaent gymwynas dros eu crogi, a dyma'r bobl mwyaf aniolchgar ar wyneb y ddaear. Rhennir trigolion Llydaw, fel y rhennid y Cymry gynt, yn ddau ddosbarth, — y bobl sy'n cynyrchu, a'r bobl sy'n difa'r hyn gynyrchir gan eraill. Gwaith y dosbarth cyntaf yw llafurio ac aberthu. A gwaith y lleill, — "defaid
Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/88
Gwirwyd y dudalen hon