XIII.
MORLAIX.
ANNAML y bu mwy o eisiau bwyd na'r eisiau oedd arnom ni pan gyrhaeddasom Drecastell tua dau o'r gloch ar brynhawn mwll a phoeth.
Prin yr edrychasom ar yr eglwys na'r ystrydoedd; ac wedi troi i mewn i westy, edrych ar y bobl yn gwneud bwyd oedd yr unig beth diddorol inni. Tra'r oeddym yn bwyta, heliai pobl y pentref i mewn i'r gegin eang i weled y dieithriaid. Siaradent yn ddibaid, ond yr oeddym yn rhy brysur i dalu'r sylw lleiaf iddynt. O'r diwedd cododd Ifor Bowen ei ben, a dywedodd, — " Helo, dyma ferched braf." Meddyliasant ein bod yn medru Llydaweg oddiwrth hynny, a rhedasant allan blithdraffith. Y mae'n ddiame eu bod wedi gwneud sylwadau y buasent yn eu tyneru pe tybient ein bod yn eu deall. Yr oedd accordion yn y tŷ, a dechreuodd Ifor Bowen ei ganu. Wrth sŵn hwnnw mentrodd y merched ieuainc yn ol, a dechreuasant ddawnsio ar y llawr. Gwelem y boddheid hwy yn neilltuol gan ambell alaw Gymreig, — megis Dyffryn Clwyd a Hobed o Hilion. Canasant amryw ganeuon Llydewig, ac yr oedd pruddglwyf y Cymry lond eu lleisiau. Y mae Ifor Bowen yn perthyn i grefydd, a gwrthododd ail ddechre canu caneuon dawns. Ond mynnai'r Llydawesau ddawnsio, ac yr oedd un yn canu rhyw ychydig o nodau, — "un, dau, tri, pedwar, pump, a naw, — tra bo sodlau ysgeifn y lleill yn symud. Yr oeddynt yn gwibio trwy ei gilydd mor esmwyth a phe baent blu eira mewn awel, nes oedd ein llygaid bron a britho wrth edrych arnynt. Meddyliem, wrth adael Tregastell, y bu amser y gwelid merched Cymru'n ymdrwsio i fyned allan gyda'r chwareuyddion dawns.