Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/96

Gwirwyd y dudalen hon

Y mae rhai capeli prydferth yn yr eglwys. Bum yn sefyll peth amser o flaen capel St. Owen, lle'm hysbysid y cawn ollyngdod oddiwrth fy holl bechodau am flynyddoedd lawer os gweddiwn y gweddiau hyn o'm calon, —

"Iesu, Ioseff, a Mair, yr wyf yn cyflwyno i chwi fy nghalon a'm henaid. Iesu, Ioseff, a Mair, cynorthwywch fi yn f'olaf gur. Iesu, Ioseff, a Mair, caffed fy enaid, wedi fy marw, fod mewn heddwch gyda chwi. O Dduw, yr hwn roddaist St. Owen yn dad i'r tlawd, yn ddadleuydd dros y gweddwon, yn warcheidwad i'r amddifaid, dyro i ni ras, trwy ei eiriolaeth ef, i fod yr un mor elusengar, ac i ystyried perl mawrbris tragwyddoldeb yn well na da tymhorol byd sy'n myned heibio.Er mwyn Iesu Grist. Amen.

O, St. Owen, goleu eich gwlad, gelyn aflendid, drych perffeithrwydd, gŵr y gwyrthiau, atgyfodwr y meirw, gweddiwch drosom ni."

Cyn i mi fynd trwy restr hirfaith perffeithderau Owen Sant, yr oedd pererin Llydewig wedi dod o rywle, a llwch trwchus ar ei ddillad, a'i wyneb wedi llosgi yn yr haul, ac wedi penlinio'n ddefosiynol wrth fy ochr. Hawdd oedd gweled iddo gael siwrne hir, ac nad oedd wedi aros i gael lluniaeth pan gyrhaeddodd Blouaret; hwyrach fod ganddo bechodau yn ei lethu, a chred yn Owen Sant; hwyrach fod yr eglwys ar ei bryn wedi bod yn ei olwg am oriau wrth iddo deithio'r ffyrdd hirion llychllyd, a thra'r oedd ei enaid yn gruddfan am ollyngdod oddiwrth bechodau.

Gadewais y Llydawr yn gweddio mewn ffydd, a bum yn syllu ar rai arwyddluniau Llydewig oedd yn yr eglwys, cyn troi o honi. Wrth y drws daeth awel gynnes i'm cyfarfod, yr oedd gadael yr eglwys fel gadael y bedd.

Cerddais heibio drysau y cylch eang o dai, a gwelais y morwyr o gwmpas bord gron mewn tự tafarn tô brwyn. Yn yr un tŷ yr oedd barilaid o osai, a gwelwn res o gwpanau piwter uwch ben drws y parlwr, heblaw y rhai oedd yn nwylaw'r morwyr. Yr oedd y gloch