gnul yn canu, ond ni welais neb yn gwrando arni oddieithr hen ŵr, a llygaid fel gwydr, un wyddai y bydd ei gloch yntau'n canu gyda hyn. Gwelwn lwythi mawn yn prysur ddod i mewn, yr oedd yr eithin wedi ei gynhaeafa'n barod mewn deisi uchel. Gwellt ydyw to'r tai; ac wrth i mi edrych i mewn iddynt oddiallan dros y rhagddor, ni welwn ond duwch, oddigerth ambell fflam goch pan fyddai rhyw hen wrach yn taflu eithin dan y crochan.
Erbyn i mi gyrraedd yr orsaf, yr oedd y morwyr wedi dod yn ol o'm blaen, ac yn bargeinio gyda hen wraig am eirin duon. Clywais lais un ohonynt yn gofyn yn wawdlyd," Pa gimint? Whech!" A chlywais yr hen wraig yn ateb, wedi rhoddi'r eirin o un i un, — Dene douzec !" Dechreuodd y morwyr ddawnsio cyn hir. Yr oedd un ohonynt wedi gwario cryn dipyn, — a chofier y gellir meddwi'n chwil yn Llydaw am bum ceiniog, — a phur afrosgo yr oedd yn dawnsio. Er hynny clywsom ef yn cynghori ei gyfaill i ddawnsio'n iawn," gan ei alw wrth enw adnabyddus yn Llydaw a Chymru ar un ofnir gyda'r gwyll. Sylwai Ifor Bowen yn gyffredinol mai y rhai sy'n dawnsio'n gam yn y byd yma sydd hoffaf o gynghori eraill i ddawnsio'n iawn.
Daeth tren Paris cyn hir, a chydag iddo stopio clywsom wylofain. Yr oedd geneth wledig o Dre Guier wedi anghofio disgyn yng Ngwengamp, ac wedi dod ymlaen i Blouaret. Dywedid wrthi y gallai fynd yn ol gyda'r tren nesaf, ac nad ai ei chelfi ar goll. Llydaweg oedd yn siarad, ac yr oedd y morwyr oll yn gydymdeimlad i gyd, ond ni fynnai'r enethig ei chysuro. Yr oedd dynes ffasiynol o Ffrainc yn y tren, a chwarddai wrth weled yr eneth yn wylo, gan ddweyd yn wawdlyd, — " Mae hi'n ddigon hen i edrych ar ei hol ei hun, mae hi'n un ar bymtheg oed." Yr wyf wedi sylwi droeon mai anodd iawn gan ferched gydymdeimlo â'i gilydd, yn enwedig rhai dibriod.
Canodd cloch y tren fel pe bai claddedigaeth yn cychwyn, ac wedi i ni fynd tipyn darganfyddodd y