Ffrances grand ei bod hithau wedi colli ei ffordd. I Lannion yr oedd yn myned, dylai ddisgyn ym Mhlouaret, ond dyma'r tren yn ei chwyrnellu tua Brest. Atgofiodd un o'r morwyr hi ei bod yn ddigon hen i edrych ar ei hol ei hun. Cawsom ei chwmni anifyr anewyllysgar cyn belled a Phlounerin, ac yno disgynnodd. Danghosai rhai o'r teithwyr bentre bychan i ni ar y chwith, a dywedent am bererindod flynyddol oedd newydd gymeryd lle, — ymlusga'r pererinion ar eu gliniau o amgylch y fynwent, ac yna tynnant am danynt yn noeth lymun groen ac ymolchant yn ffynnon Laurent Sant. O Blounerin i Forlaix cawsom ffordd ddiddorol, — weithiau rhosdir yn ymestyn at y môr, dro arall byddem ar lethr bryniau, a dyffrynnoedd isel oddi tanom, yn llawn o bobl yn cyweirio gwair. Tua thri o'r gloch cawsom ein hunain ar bont anferth uchel, a gwelem dref a phorthladd Morlaix i lawr ar lan afon yn syth odditanom.
Stopiodd y tren newydd groesi'r bont, ac ar ein cyfer gwelem y gwesty y cawsom ein cyfarwyddo iddo gan ein cyfeillion Llydewig yn Lannion, — yr Hôtel Bozellec, un o'r gwestai gore a rhataf yn Llydaw. Un o'r pethau cyntaf a wnaethom oedd holi'r westywraig am Mr. Jenkins, cenhadwr y Bedyddwyr. Oedd, yr oedd yn ei adnabod yn dda, y mae pawb yn adnabod Mr. Jenkins ym Morlaix, ebe hi. Y mae pawb yn hoff ohono, y mae wedi gwneud da na wyr neb ei faint yna, wedi dysgu llawer i ddarllen ac i fyw'n well." Dywedodd hefyd am y deffroad diweddar, ond meddyliwn y cawn hanes manylach gan Mr. Jenkins ei hun.
Wedi cael ymborth, arweiniwyd Ifor Bowen a minnau gan fachgen bach bochgoch i lawr tua thrigle'r cenhadwr a thua'r dref. Troisom i ystryd gul, a churasom wrth ddrws derw du. Daeth bachgennyn i'r drws, — yr oedd Mr. Jenkins wedi mynd i ffwrdd am ei wyliau, ac ni ddoi'n ol tan ddydd Iau. Dyma'r siomedigaeth gyntaf, a'r unig siomedigaeth fawr, a gawsom yn Llydaw.