Credasant fod y gwaethaf drosodd, ac y byddai i Mont Pelee fyned yn ol drachefn i gysgu.
Eithr nid oedd eto wedi bwrw ei lid. Bore Iau y Dyrchafel, yn blygeiniol fore, elai y Pabyddion i'w heglwysi; ac yr oedd y rhelyw o'r dydd i'w roddi i bleser a seibiant. Am saith o'r gloch y bore angorodd yr agerlong Roddam o Lundain yn ymyl y ddinas; ac am wyth gwelai ei llywydd, y Capten Freeman, fur du a darnau o dân ynddo yn esgyn o'r mynydd, ac yn teithio gyda chyflymder arswydus i gyfeiriad ei lestr. Yr oedd y swn yn ddychrynllyd. Cododd y môr yn bentwr. Ciliodd y goleuni, ac yr oedd dywylled a chanol nos. Disgynnai tân yn belenau o gwmpas. Gwaeddodd y capten orchymyn i droi y peiriannau yn eu hol; a ffwrdd a'r Roddam mor gyflym ag y medrai ager ei gyrru i gyfeiriad St. Lucia.
Pan gyrhaeddodd yno, fel drychiolaeth o'r dyfnder, yr oedd deunaw o'i chriw yn gyrff meirwon: ac yr oedd pump yn fyw o dan eu clwyfau i ddiolch am un o'r gwaredigaethau rhyfeddaf mewn hanes. Diangodd y prif swyddog Scott, oedd ar y Roraima—agerlong berthynol i