Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/78

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

VII. JAMAICA.

AR ganol dydd Llun dringasom ystlys yr agerlong Trent, a gyrhaeddodd y bore hwnnw o Southampton. Codwyd angor, ac yr oeddem ar y llwybr i Jamaica. Ar ol mordaith ddigon garw, cyrhaeddasom harbwr dinas Kingston yn blygeiniol dydd Gwener. Ni fu ein troed ar long odidocach na'r Trent; a theimlem yn ddedwydd iawn arni, ac ar ei ffordd yn ol o Colon bwriadem groesi adref ynddi. Wedi gadael cysgod tir a bwrw allan i'r môr agored tarawyd ni gan wynt cryf o'r gogledd. Golchai ton ar ol ton drosom; a pheryglus oedd myned allan ond ar ochr gysgodol i'r llestr—ar y leeward, chwedl y morwyr; eithr dydd Iau, wedi cyrraedd cysgod Haiti, tawelodd y môr a dychwelodd hwyliau da i ysbryd pawb.

Ar ein ffordd i harbwr Kingston, rhedai y Trent trwy gulfor, a'r tir ar un law, a chraig hir o goral ar y llaw arall. Pasiwyd Port Royal, prif orsaf filwrol