Tudalen:Twm o'r Nant Cyf I.pdf/14

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iol iawn o ran llithrigrwydd ei awen am y mesurau tri neu bedwar bar. Efe a gyfenwyd Twm Tai yn Rhos. Fe wnaeth imi englyn, i'w roi mewn llyfyr oedd gennyf o gasgliad cerddi:—

Twm Ifan, wiwlan alwad—yn bwer
A biau'r darlleniad;
Heliai gerdd i lenwi'r wlad.
Dew gywaeth rhwng dau gauad.

Twm, neu Thomas Evan, yr oeddwn i yn ysgrifenu fy enw cyn myned y pymthegnos hynny i'r dref i ddysgu Saesneg; dyna'r pryd i'm cyfenwodd hwnnw fi yn Thomas Edwards, oblegid mai Evan Edwards oedd enw fy nhad, ac na fyddai ond basdarddiaid yn myned ar ol yr enw cyntaf. Peth bynnag, mi gefais yr anrhydedd o fod yn ysgrifenydd i'r hen brydydd; pan wnai ef gân, fe ei cofiai hyd nes deuwn ato. A phan fyddai yr hen wr yn dywedyd ei waith, mi godwn weithiau i ymresymu âg ef, oni byddai y peth yn well ffordd arall; braidd nad oedd ef yn eiddigeddu wrthyf, rhag fy mod yn gwneyd artaith ar ei waith ef. Ond cyn fy mod yn ddeuddeg oed, fe gododd saith o lanciau Nantglyn i chwareu interliwd, a hwy a'm cymerasant innau gyda hwynt, rhwng bodd ac anfodd i'm tad a'm mam, i chwareu part merch; oblegid yr oedd gennyf lais canu a'r goreu ag oedd yn y gymydogaeth. Mi gefais y part i'w ddysgu mewn cwrw gwahawdd i ddyn tylawd, yn y Fach, yn agos i Felin Segrwyd, lle y telais y tair ceiniog cyntaf erioed am gwrw. Felly ni a ddysgasom chwareu yn ganolig yn ol y dull ag oedd y pryd hynny. Minnau yn hogyn â'm holl ddymuniad ar ddarllen ac ysgrifenu, oeddwn yn athrylithgar iawn am