Tudalen:Twm o'r Nant Cyf I.pdf/22

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hewythr a minnau dalu yr arian iddo ef fel y gallem; a hynny a fu. A'r cyfreithiwr a yrrodd gennad bwrpasol o hyd nos at y gofynnwr drachefn, yntau a roddes ei law wrth ryw bapur i'r atwrnai gyda'r gennad yn ol. Yna y cyf- reithiwr a wnaeth writ â'i law ei hun, heb un sirydd na debid wrthi, ond ei waith ef ei hun. Minnau a sistiais am gael ei gweled, ac adnabum, ac eraill gyda mi, a'r hen writ yn tystio llaw y sirydd. Beth bynnag, mi yrrais, gydrhyngwyf a'm cymdogion, chwech neu saith o geisbwliaid i ffwrdd ar unwaith.

Beth bynnag, rhwng fod cario o Gaer wedi mynd yn waeth, a blinder ac ofn y gwalch hwnnw, mi a gymerais goed gan un Sion Stokes, o Groesoswallt, a'r coed oedd ar dir Dolobran, yn sir Drefaldwyn. Mi a gymerais y coed a'r ffarm hefyd, ac yno yr aethum. Yr oedd yno ffarm dda, a melin yn ei chanlyn, ac heb fod yn rhy ddrud. Mi a fum yno yn cario ac yn hwylio i drin y tir, a gosod llawer o hono. Ond yng nghanol y cwbl, yr oedd y diawl ar waith, a chanddo dwrnel i bobi i mi yno fara lefeinllyd. Fe gafwyd yno writ yn fy erbyn; minnau a ddeallais ac a ddaethum at gyfreithiwr Dinbych, i ddeisyf heddwch am amser—fy mod mewn cychwynfa bywoliaeth yn y wlad honno; yntau a ysgrifenodd i mi lythyr, ac yn bur fwyn wrthyf, a pheri imi ei roddi â'm llaw fy hun i'r twrne hwnnw, byddai pob peth yn burion. Minnau yn llawen aethum ar gefn fy merlen adref; ac yno mi a ystyriais beth a allai fod yn y llythyr ; cymerais goes pibell ac a'i dodais yn tân ac a chwythais trwyddi i egoryd y sel; a phan