Tudalen:Twm o'r Nant Cyf I.pdf/37

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

TRI CHRYFION BYD.

CARIAD, TYLODI, AC ANGAU.

Ymddengys Syr Tom Tell Truth

 RWY'ch cennad heb gynnen, â llawen ddull hoew,
Dymuna yma silence, ac i bawb ddal sylw;
Chwi gewch ddifyrrwch yn ddi feth,
Os torrwch beth o'ch twrw.

Mae'n gofyn i bawb sy am wrando,
Roi pob ymddiddan heibio;
Ni ddichon neb ddeall unrhyw ddawn,
Neu stori heb iawn ystyrio.

Cymysgedd ieithoedd Babel
Sydd yma fynycha'n uchel;
Ni cheir, lle bo cynifer dyn,
Ond ychydig yr un chwedel.

Mae dyn wrth naturieth wedi torri'n druenus,
A'i feddylie'n anwadal, yn falch ac yn wawdus,
Yn ymlid, fel canghenne pren ar wynt,
Ryw helynt afreolus.

Fe ddwedodd y sarff o'r dechre
Y bydde dynion megys duwie,
A'r balchder hwnnw sy'n ffals ei wên
Yn glynu mewn hen galonne.

Can's fel hyn eto mae dyn wrth natur,
Yn dal yn arw am wneyd diawl yn eirwir,
Am fod yn ddoeth yn ei olwg ei hun
Mae braidd bob dyn a adwaenir.