Tudalen:Twm o'r Nant Cyf I.pdf/43

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Tri Chryfion Byd. 33

Traeth. Mae enw'r gair maswedd fel hyn i'w
gymhwyso,
Am bob pethe allanol eill natur eu llunio ;
Gwagedd o wagedd, a maswedd mewn mesur,
Heb waith y dyn newydd, yw popeth dan awyr.
Maswedd cnawd esmwyth sy'n adwyth niweidiol,
Yn suo rhai'n Sion ar foddion crefyddol,
Canu a gweddio, a gweithio pregethe;
Fe gyfrif Duw'n faswedd holl ffrwyth eu gwefuse.
Tom. Os oes maswedd mewn pregethe,
Ni waeth nyni na hwythe;
Os gallwn gario cydwybod clir,
I draethu'r gwir, bob geirie.
O ran mae'r gair gwir, drwy gariad,
Yn haeddu beunydd bob derbyniad,
Mewn amser ac allan o amser llawn,
Mae'n ddidwyll ac iawn ei ddwediad.
Traeth. Ychydig o gariad sydd mewn geirie
A draetho'r ynfydion ar flaene tafode;
Murie sychion yw'r rhai hynny
Heb ffydd, fel morter, i'w cyd-dymheru.
Mae'r rhain yn debyg o ran eu diben,
I fynediad y wenfol a'r gornchwiglen,
Yn troi o gwmpas, er hynny eu cartre
Sydd un yn y gors a'r llall yn y simne.
Mae hithe'r 'sgyfarnog enwog union,
Yn cnoi ei chil o egni ei chalon,
Yr un droed â chi yw hi, er hynny,
Felly mae buchedd rhai redant i bechu.
Mae eraill o ryw'n fforchogi'r ewin,
Hyd ffyrdd y duwiolion y byddant hwy'n dilyn,