Tudalen:Twm o'r Nant Cyf I.pdf/46

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

36
Twm o'r Nant.
A chariad cyflawndeg y deg waredigeth
Sy'n gryfach nag ange'n rheole marwoleth.
Ac yna'n ganlynol, allanol ddull hynod,
Cewch beth o gwrs bywyd y byd a'i gybydd-dod,
Drwy wraig afrywiogedd, flaen daeredd, flin-
derus,
A chanddi ddau feibion, yn ddigon eiddigus.
Ac un mab oedd gartref, fel hithe yn ei heithaf,
Yn gybydd rhy arw, a hwnnw oedd yr hynaf,
A'r ail a gai'r ysgol, drwy rwysg a chymeriad,
A'r peth a wneiff arian, fe'i rhoed yn offeiriad.
'Nol hyn, wedi'r cwbl, y fam a'i mab cybydd
A gwympodd yn galed allan a'u gilydd,
Ac at yr offeiriad hi a i fyw yn gorfforol,
Bu yno nes marw mewn enw mwy unol.
Hi drefnodd ei h'wyllys drwy hollol gydsyniad,
Yn anwyl ei pherwyl, i'r mab oedd offeiriad,
A'r ddau am yr eiddo mewn cyfreth ymroddodd,
A'r cybydd gofidus, wr gwallus, a gollodd.
Fe syrthiodd wrth erlid i lid a thylodi,
Ac ar ei ddiweddiad fe gadd ei argyhoeddi ;
Mae'n troi'n edifeiriol o'i farwol arferion,
'Rhyn fydde'n ddaionus i bob gradd o ddynion.
Ac felly, 'r cwmpeini, mae pennaf gychwyniad
Yr act wael sydd gennym, os rhowch chwi fwyn
gennad,
Gosodwn hi o'ch blaene ein gore drwy gariad,
Na ddigiwch, cyd-ddygwch, lle ffaelio'n hym-
ddygiad.
[Diflanna Traethydd.