Tudalen:Twm o'r Nant Cyf II (ab Owen).pdf/81

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhys. Gadewch heb rwystr eiste,
Mae digon o godiad ar gatal ac yde;
Chwychwi a'ch ffasiwn, hyn o dro,
All fforddio gwario o'r gore.

Arth. O, rhaid i mi edrych beth a wnelw',
Pe gwydde 'meistr tir 'mod i yn cadw twrw,
Fealle y code fo bum punt yn y man
Ar fy nhyddyn o ran heddyw.

Rhys. Ha fab, rhag c'wilydd, 'dwy'i ddim yn coelio,
Mae amser i alaru ac amser i ddawnsio.

Arth. Oes, amser i bob amcan, mi wn fy hun,
Ond doeth ydyw'r dyn a'i hadwaeno.

Rhys. A oes ini amser beth yn ngweddill,
Y gallem ni heb anair ganu yma bennill?

Arth. Neb a wnelo heb anair un ffafr yn ffest,
Fe fydd iddo orchest erchyll.

Rhys. Wel, canwch chai gerdd i ddechre,
Ac yna'n fwynedd mi ganaf inne.

Arth. Dyna ben, mi ganaf gerdd fy hun,
Ni wn i fawr, fe ŵyr dyn, ar danne.

Rhys. Wrth gofio, dewch ac yfwch,
Ac yna'n well chwi genwch.

Arth. Dyma at ein hiechyd ni bob un,
Yr hwsmyn dygyn degwch.