Tudalen:Wat Emwnt.pdf/10

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Un gwyllt oedd e' yrio'd, Ranter neu b'ido. Ond yn wir, Wat, 'dy'n nhw ddim cyn 'rwg a hynny wedi'r cwbwl."

"Ffordd wyddost ti beth y'n nhw? Wyt ti'n un o'u pregethwrs, gwed ?"

"Na! ond 'rwy'n un sy'n gwrando'u pregethwyr nhw, ac yn meddwl mynd idd 'u hysgol nhw he'd pan gaf fi gyfle."

"Beth 'weta'st ti?-yn mynd at y giwed sy'n meddwl d'od i'r Pompran, ac i ddysgu darllen gyda llaw! Gwêl di yma, foy bach, wela's i ddim daioni o'r scolars yma yrio'd-forgers neu glippers bob un. Da ti, paid â 'merlyd â drwg, a hynny mor ifanc. Beth ma' nhw'n i 'neud yn y Pompran, wyddost ti?"

Darllen y Beibl, fel ma' nhw'n 'neud ymhobman arall."

"Beth! meindio busnes y ffeiraton! Dyna hi eto yn mynd â gwaith dyn arall. Ti gei dy dransporto mor siwr ag i'r c'ilog ganu ar y buarth Y bore yma. Ia, a darllen shwd ma' clippo hefyd, tepig."

Clippo! beth yw hynny, Wat?'

"Ti elli ofyn yn wir. Wyddwn i ddim m'hunan cyn i fi weld scoler yn cael 'i groci am hynny, ddydd Ffair 'Berhonddu ddiwetha'. Torri ymylon y gini, a thoddi'r aur hynny iddo fe'i hunan, hynny yw, dy robbo di a finna' o werth y gini, er na fu llawer gini genny' 'rioed, ma'r nefo'dd yn gwpod. Beth arall ichi'n feddwl 'neud 'blaw dysgu gwaith ffeirad?"

"Canu emyna', ac O, Wat! mae rhai o'n nhw'n dda, n'enwetig rhai Wiliams."

"Hm, 'does dim llawer o ddrwg mewn canu, pe baech yn aros m'ynny. Fe fuo'n i'n canu