Tudalen:Wat Emwnt.pdf/12

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD III.
Glannau'r Afon.

ERBYN diwedd y cynhaeaf yr oedd Wat a Dai yn fwy cyfeillgar fyth, ac er yn methu â chytuno ar bwnc pwysig y Ranters, eto â pharch mawr i'w gilydd fel y digwydd yn fynych rhwng pobl a anghytunant mewn un peth.

"Wyt ti'n ffond o bysgota, Dai bach?" ebe Wat wrth ei gydwas un prynhawn ar ddiwedd sgwrs hir.

"Wel, am otw, ma' pawb yn ffond o bysgod, ond be' well wy i o hynny, 'does dim pysgod ar ein bord ni byth. Cawl a lla'th enwyn, lla'th enwyn a chawl yw hi yma'n dragywydd, fel y gwyddoch chi gystal a finna".

"Dai! 'dwyt ti ddim yn arfer bod yn dwp. Ffond o bysgota 'wetes i, nid ffond o bysgod.

"O, 'rwy'n gweld. Wn i yn y byd beth i'w 'weyd, 'rown i'n ffond o bysgota â phin cam yn Llycad Cynon slawer dydd, ond ni fu gwialen reial genny' yrio'd."

Ġwialen ! pwy sy'n sôn am wialen? Pe dwedet ti bawlen ti f'aset yn nes i dy le. Dere ma's genn' i heno i dreio'n lwc!"

"Heno? Shwd bysgod yw y rheiny sy'n ca'l 'u dala yn y nos ?"

"Twp eto, Dai. Ond, 'm bachan—rhwyd a phawlen yn dala naw neu ddeg o'r beauties ar y tro a rheiny'n tampo ar y dorlan fel bantams. Dyna beth yw pysgota, boy, dim o dy bwtio'r dŵr â