Tudalen:Wat Emwnt.pdf/120

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wela's i un shawdwr'r amser o'wn i ma's gyda General Wolfe, yn 'i cha'l hi yn yr un ffordd. Do, tawn i' marw, pan ow'n ni'n mynd i symud lan i Montreal, chi'n gweld,—"

"Come, Virgin!" ebe Daniel Morgan wrth ei greadur yn y cerbyd, gan adael yr Hen Binshwner ar ganol ei ystori.

Yna aethpwyd i Dafarn Cryw, lle yr oedd William Lewis, os yn llai llafar ei groesaw na'r Hen Binshwner, eto mor gynnes ag yntau. Ac yn y parlwr bach gofalodd ef osod lluniaeth goreu ei dy o flaen y cwmni llawen.

Ni chyrhaeddwyd mo Nantmaden hyd yr hwyr, ond pa mor hwyr bynnag ydoedd hi arnynt yn cyfranogi o'u swper yno, llawer hwyrach na hynny ydoedd hi arnynt yn ymwahanu am y nos. Oblegid rhaid oedd cael Wat i adrodd cyfran helaeth o'i hanes wrthynt i gyd y noson honno, a rhaid hefyd gan Daniel Morgan ydoedd darllen ei salm arbennig ef unwaith yn rhagor.

Dywed yr awdurdodau ar hanes lleol, na chymerodd Mali yn garedig at Marged y noson gyntaf honno, ac iddi fynegi ei barn nad oedd "dim isha' i Wat fynd mor bell a 'Merica i brioti gwitwfod dicon o'r rheiny yn nes i dre'."

Ond ni wyddai hi'r amgylchiadau pan ddywedai hi hyn, a theg yw ychwanegu iddi yn ol llaw newid ei meddwl, ac i Marged a hithau ddyfod yn gyfeillion mawr.

Arfaethasai Wat gael "lle bach "o dyddyn iddo ef a'i briod ar eu dychweliad, ond nid oedd yr un i'w gael ar y pryd, a mawr oedd ei siom oherwydd hynny. Mewn gair meddwl am Flaen Hepsta neu