Tudalen:Wat Emwnt.pdf/125

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

124 DAMHEGION Y MAEN LLOG, sef traethiadau PEDR HIR yng Ngorsedd y Beirdd o'r flwyddyn 1904 ymlaen, yn cynnwys Dameg y Pedolau, Y Twrch Trwyth, Y Morgrugyn Cloff, Eryr Gwern- abwy, ac yn y blaen. Rhwng Cymraeg mor rhyw- iog a phur ei idiom ac arabedd cyrhaeddgar ond diwenwyn Pedr Hir, Rhagair y diweddar Archdder- wydd Dyfed, a phortread y diweddar Barch. Thos. Shankland, M.A., o'r awdur, y mae hon yn gyfrol hollolar ei phen ei hun yn llenyddiaeth Cymru. Cynhwysa ddarlun hardd o'r Awdur ar ben y Maen Llog. Llian, 2/6. DRYSAU ERAILL. Gan R. H. JONES, Awdur Drwy Gil y Drws, Y Drws Agored, Drws y Galon. Cyfrol newydd o Farddoniaeth, Atgofion, a Dar- luniau. Llian, 2/6. HANES YR HEBREAID HYD Y DYCHWELIAD O FABILON. Gan y Parch. D. FRANCIS ROBERTS, B.A., B.D., Lerpwl (Awdur Dysgeidiaeth y Pum Llyfr). Rhif I. o Gyfres Llawlyfrau Pwyllgor Cyd-enwadol yr Ysgolion Sul yng Nghymru. Y cymorth goreu at iawn efrydu Llyfrau'r Pro- ffwydi. Dylai fod wrth benelin pob un sy'n cynnal Dosbarth Beiblaidd yn yr Hen Destament. 200 tudalen. Llian, 2/6. Amlen, 2/-. HIWMOR MEWN LLENYDDIAETH GYM- RAEG. Traethawd arobryn Eisteddfod Genedl- aethol Birkenhead, 1917, gan y Parch. T. MARDY REES, Castell Nedd, ac ynddo gannoedd o enghreifft- iau o ddoniolwch, mewn rhyddiaith a barddon- iaeth, fydd yn hwylus i wŷr cyhoeddus eu dyfynnu er mwyn gyrru'r hoelen adre, a chloi araith a phapur a phopeth. Byrddau, 2/6. "Llyfr i'w ddarllen a'i fwynhau o'i ddechreu i'w ddiwedd ydyw hwn, ac ni ellir mewn nodion fel hyn ddangos mor ddifyr ydyw. Dylai pob Cymro ei feddu."-Yr Herald Gymraeg.