Tudalen:Wat Emwnt.pdf/13

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwialen fain, ac ymron rhewi drwy'r dydd ar lan yr afon. Dere heno, Dai, iti gael gweld beth yw sbort yn iawn. Ac fe 'weta iti beth arall-naw c'in'og y pownd am danynt i gyd, fach a mawr. Ti gei di dy shâr fel finna'. Dere mlân!"

"Ond ble ma'r bawlen a'r rhwyd, wela's i ddim un yrio'd gyda chi ?"

"Ha! Ha! y gwir a weta'st! Wyt ti'n meddwl mod i'n 'u catw ar y shelf a'r dresser neu'r lein-press? Ti weli di nes ymla'n fod genny' rai petha' erill heblaw pawlen a rhwyd sy' ddim yn y golwg. Dishgw'l yma, Dai, r'wy'n cretu dy fod ti'n true blue, neu wetwn i ddim gair wrthot ti. Ond popeth yn 'i amser 'd iefa? Pysgota heno a mynd â'r sbort i ŵr Tafarn Cryw nos yfory. Dyna ddyn y naw c'in'og, cofia, ac fe gymerai deirgwaith gym'int a ddal'wn ni unrhyw amser."

"Wel, Wat, fe ddwa i heno i lan yr afon ta' beth, ond ddwa i ddim i'r tafarn i werthu'r pysgod."

"Olreit, Ranter bach, pwy ofynnodd iti dd'od i'r tafarn? Nid y fi 'rwy'n siwr. Ond cofia fod yn barod wrth gefan y scupor ar ol bwydo'r cre'duriaid maes law, 'nei di ? Yna fe ddechreuwn wrth Bwll y Ffynnon."

Gwnaethpwyd fel y cytunwyd. Wedi rhoddi ei gyfran i bob creadur ag oedd yn y beudai a'r ystabl, aeth Dai i'r man cyfarfod y tu of i'r ysgubor. Yno yr oedd Wat eisoes yn ei ddisgwyl, ac wedi ei genglu ei hun â rhaff wair am ei ganol, a chyda chapan yn dyn am ei ben. Ar ei ysgwydd, wedi ei thaflu'n llaes drosti, yr oedd ei rwyd, ac ar y llawr yn ei ymyl gorweddai y bawlen y soniwyd cymaint am dani yn ysgwrs y prynhawn."