Tudalen:Wat Emwnt.pdf/14

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cymer hon, a dod hi dros d'ysgwydd," ebe Wat wrth ei gyd-bysgotwr di-brofiad, gan estyn iddo yr un pryd sach a oedd wedi ei phlygu yn bedwran, "fe fydd dipyn yn o'r i ti ar lan y dŵr, a thithe ddim yn gyfarw'dd. Gad i fi ei chlymu i ti ?"

Wedi hynny o orchwyl, a chodi'r bawlen feinhir yn ei law, "Dilyn fi !" ebe ef, ac i lawr dros y waun hir a hwy ill dau hyd at ymyl yr afon.

Ar dorlan Pwll y Ffynnon eisteddasant am ennyd, ac yna y gwelodd Dai fod i'r rhwyd nifer o gylchau a ymlithrai yn hawdd ar hyd ddeuddeng troedfedd y bawlen. Cylymodd Wat y cylch cyntaf yn ddiogel wrth flaen y meinbren, rhoddodd ys- gydwad i'r rhwyd i'w lledu i'w llawn gwmpas, ac aeth i waered i'r dwfr gan wthio'r bawlen a'r rhwyd a hongiai wrthi, o'i flaen i'r pwll.

Er mwyn i Dai fod a llaw yn y gwaith, yn fwy na dim arall, rhoddwyd y fasged-un fawr, ddofn, o wneuthuriad cartre'—ar ei gefn ef. Pan sicrheid hi yno, gwenodd y llanc am ei helaethrwydd a'i dyfnder, a gofynnodd i Wat os credai y delid ei llond unrhyw amser.

"Wyddo't ti byth dy lwc, machan i," ebe'r gwron hwnnw. Rhan fynycha' mae digon o le'n hawdd ynddi i'r pysgod a ddaw o'r rhwyd iddi, ond cred di fi neu beidio, 'rwy wedi ca'l amsera' nad oedd hi ond hannar digon hala'th. Dyna un i'r rhwyd ishws, a whelpyn lled dda hefyd greta i. Hisht 'nawr, paid â wilia rhacor, neu fe'u tarfwn i gyd."

Tawelwch felly a fu am beth amser hyd nes i Wat ar ol pysgota'r llyn yn llwyr, dynnu ei rwyd i dir yn y man y digwyddai fod Dai yn sefyll arno