Tudalen:Wat Emwnt.pdf/15

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar y pryd. Taflwyd y ddalfa i'r dorlan, ac yno oedd y brithyllod (neu y bantams, chwedl y pysgotwr) yn gwingo ac yn llamu ar y glâs. Cydiodd Wat ynddynt bob yn un ac yn un, a chan osod ei fys yn safn pob brithyll yn ei dro, gwasgai y pen yn ol at y cefn fel ag i dorri'r gwddf. Yna wedi dal pob un yn ei law am ennyd fel pe i amcansynied ei bwysau, gosodai ef yng ngwaelod y fasged fawr. Dyma'r whelpyn cynta', mi wna'n llw," ebe fe, gan gymryd a dal pysgodyn neilltuol yn ei law— hanner pownd os yw e' owns, pysgotyn glân digynnig.'

"Ffordd gwyddoch chi mai fe oedd yr un cynta?" mentrodd Dai i ofyn.

"Wrth 'i gic, machan i," oedd yr ateb hynod, "Do's dim fel brithyll hanner pownd am wingo. Mae'r rhai llai yn rhy wan, ti'n gweld, a'r rhai mwy yn rhy bwdwr. Dyna'r s'boniad, medde nhw. Chlywa'st ti mo hynny o'r bla'n, tepig."

"Naddo'n wir !"

Ac fe allai Dai ddywedyd yr un peth am lawer o ddywediadau eraill a glywodd ef y noson ryfedd hon. Oblegid yr oedd esboniad gan Wat ar bopeth.

Wedi dal da mewn ambell i bwll torrai allan yn fuddugoliaethus—"fe wyddwn—shure shot bob tro." Yna am lyn arall, llai ei ysbail, "mae'r gwyddau wedi bod yma o'n blaena', weld di, plâg ar 'u penna' nhw!"

Ac eto, wedi chwarter milltir o bysgota teneu, "wnaiff hi mo'r tro, fe eisteddwn i lawr fan hon, mae'n llwytrewi, ti'n gweld, a 'dyw'r pysgod ddim yn cerad ar y llwytrew. Rhaid inni aros iddi wella tipyn."