Tudalen:Wat Emwnt.pdf/18

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

derbyn, ac yr oedd gwerin niferus wedi datgan eu bwriad o fanteisio ar y cyfle.

Mae'n wir fod ambell un fel Wat Emwnt yn siglo pen, ond dyna arfer yr ysbryd ceidwadol erioed, erioed; ac nid oedd brinder ar broffwydi yn darogan adfyd i'r holl blwyf am fod rhywrai yn ymherlyd â drwg," a dwyn gwaith pobl eraill.

Gwenodd dydd dechreu'r gwaith maes o law, ac o bob cilfach drigiannol yn y rhanbarth daeth allan yn eu hawydd a'u miri blant o bob oed a maint, i gyrchu'r ty yn y Pompren lle trigai'r Gamaliel newydd yn barod i'w derbyn.

Un o hafau bychain yr almanac Cymreig ydoedd hi weithian, pan ymddangosai teyrn y dydd fel am wneud iawn am y cynhaeaf brith a roesai ef ddeufis cyn hynny.

Ond yr oedd cynhaeaf mwy toreithiog wrth y drws heddiw, a'r plant eu hunain oedd yr ysgubau llawn.

Ac yn wir, diwrnod teilwng o'r fath gywain ardderchog ydoedd hi. Cyffyrddasai bys oer yr hydref eisoes a dail y cwm gan wawrio eu gwyrddni haf i bob goliw o felynwaith hydref. Uwchben, taenai'r rhedyn crin ei gwrlid marwydos dros y bronnydd, a mygai llechweddau uchaf y foel eu harogldarth yn groeso i'r dydd a'r oes newydd. Dyma'r un rhanbarth dri chanrif cyn hynny a gasglasai ei nerth i ymgyrchoedd gwaed. Ie, a dyma'r un ardal a fynasai anfon, hyd yn oed yng nghôf teidiau'r genhedlaeth honno, ei gwŷr ieuainc o dan arfau dros Graig y Llyn i anrheithio ffeiriau a marchnadoedd Bro Morgannwg. Ond heddiw gwâg oedd y dwylo o arfau dinistr ac yn rhagoriaeth