Tudalen:Wat Emwnt.pdf/20

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

"Naddo i'n siwr. O'dd e yn y Pompran hefyd?"
P'idiwch wilia felna, Wat. 'Ro'dd e'n byw
'mhell yn ol, ac yn rytag dyn'on Duw lawr fel
ch'itha. Ond yr o'dd yn 'sglaig campus 'blaw
hynny ac yn gwpod bron cym'int a'i fishtir."
"Ho! Ho! 'rwy i wedi gweld rhai felna m'hunan.
Beth o'dd 'i ddiwedd drwg e? Beth weta'st o'dd
ei enw ?"
"Saul oedd ei enw, ac fel y digwyddws, 'i ddiwadd
e' o'dd y peth gora am dano."
"A fenta'n 'sglaig!
twyllo d'henach, Dai!"
choelia i fawr! Paid c'is'o
Dyna ddwed y Beibl 'i hunan, ac fe glywa's
Mr. Winter y 'ffir'ad yn sôn am hynny bwy ddydd
'run pryd ag o'dd e'n sôn am Pedr a'r c'il'og."
(6
O, wel, os d'wetodd Mr. Winter hynny, mae
e'n depig o fod yn wir, ond beth am y Pedr yna ?-
shwd g'il'og oedd e'n gatw?"
"A gweyd y gwir wrthoch chi, Wat, 'dwy' i'n
gwpod fawr am Pedr, ond pan ddwa i i ddarllen
chi gewch glywad y cwbwl am dano."
(6
Olreit, Dai bach! 'stica di mla'n, ond paid ag
anghofio Pedr, 'nei di. 'Rwy'n leicio clywad am y
gamesters i gyd. Gad i ni dawlu ati 'nawr."