Tudalen:Wat Emwnt.pdf/21

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

PENNOD V.
Y Pwll Canol.
AR gefn Cadair Arthur (neu'r Gatar, chwedl y
brodorion) sef yr ucheldir rhwng cymoedd Hepsta
a Chadlan, y mae nifer o byllau beision, a wnaed
gan natur rywbryd yn haenau calch yr hen fynydd.
Er yn gerigog nid ydynt yn serth ac anhygyrch, a
llawer aelod o breiddiau'r ardal a gafodd loches
ddiogel ynddynt pan ruthrai'r gogleddwynt i lawr
rhwng adwyau'r Bannau.
Perthyn tri o'r pyllau hyn i "rysfa" Nantmaden,
a phan ymwelai Wat Emwnt â defaid ei feistr, ar
unrhyw ben i'r dydd, nid cyflawn oedd ei waith
heb edrych y triphwll hyn ar war y coetcae.
Ond er cymaint gofal Wat bob amser am greadur
mud, nid ar ddafad y rhoddai ef fwyaf ei fryd, a
mynych y ceryddid ef gan Daniel Morgan, ei feistr,
am ddilyn ohono "wyr y c'il'ocod," sef oedd hynny
pob llanc da ei fyd yn yr ardal, ac aml i hen gono
o dlotyn hefyd, a ymhyfrydai mewn gosod yr adar
game i ymladd â'i gilydd.
Ond o chware teg â Wat, dylid dywedud mai
dewrder yr adar oedd a'i denasai yn gyntaf i fynychu'r
pit. Yr oedd rhywbeth yn osgo'r ceiliog game a
apeliai'n fawr ato. "Etrach arno wir," oedd ei
air, "on'd yw e'n sefyll fel sergeant of the line?
Oti, myn asgwrn i, ac yn wmladd fel un he'd."
O dipyn i beth meddiannwyd ef gan ias yr hap-
chwaraewr, a llawer hanner coron a ddeuthai yn
gyntaf i'w ran o werthu brithyllod Hepsta a