Tudalen:Wat Emwnt.pdf/22

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

newidiodd ddwylo am na chefnogasai ef y
sergeant
iawn.
Ond prif ymgais Wat ydoedd bod yn berchen
ar geiliogod ei hun. "Jiawst!" ebe fe, dim ond
i fi gael y strain right, fydda' dim atar yn y wlad a
safai o'u bla'n. Pob crib a thacell i ffwrdd, a phob
plufyn a gewyn yn 'i le. Ia, a'r hanner coron a'r
gini yn y pwrs iawn gyda llaw. Fe fynnaf 'u ca'l,
ryw ffordd ne'i gilydd neu Wat Blufyn Gwyn a
fyddaf yn sicr."
Ond hawddach oedd i Wat, fel ag i lawer ar ei
ol, i chwennych nag i gael mewn gwirionedd. Y
pwnc anhawddaf iddo, yn fwy na'r arian i brynu'r
adar, ydoedd lle i'w cadw wedi eu prynu. Fe bys-
gotai ef Hepsta i'w brithyllyn olaf i dalu pris y
deryn, ond ble oedd walk y ceiliog i fod? dyna'r
pwnc !
Gwyddai ef syniad y meistr am dano ef fel gwas
a bugail, ond gwyddai gystal a hynny, mai ofer gofyn
lle i'r adar game yn Nantmaden, yr oedd ei feistr
yn rhy bendant ei farn ar y mater o lawer.
Ag ef yn ei drafferth fawr am lety'r adar, a'i
feddwl yn ceisio dyfalu pa beth i'w wneuthur,
dug ei fugeilio ef un bore heibio i'r Pwll Canol
ar y mynydd lle'r ymddangosai popeth fel
arfer.
Ond ar y foment o'i fyned ymaith oddiyno taraw-
odd ar ei glyw sŵn cyffro isel, ac o edrych i'r creigle,
gwelodd yno 'Iwddwn' wedi ei ddal rhwng dau
faen. Brysiodd i waered ato, a chydag ychydig
o symud ar y cerrig mwyaf llwyddodd i dynnu'r
carcharor yn rhydd, heb fod hwnnw nemor gwaeth
o'i gaethiwed.