Tudalen:Wat Emwnt.pdf/23

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Wedi gollwng y creadur, arhosodd Wat i chwilio'r
agen yn fanylach, gan ddilyn ei chwrs gyda llethr
y pwll am tua deuddeg troedfedd. Yr oedd y
tyweirch naturiol ar ei phen am yr holl bellter
hwnnw, ac yr oedd o leiaf bedwar agoriad iddi
rhwng y meini, o wyneb y pwll mawr ei hun.
Cerddodd Wat yr un tir droion, gan edrych a oedd
unrhyw agoriad o gyfeiriad arall i'r agen neu beidio.
Ymddengys ei fod wedi ei foddhau ei hun yn hynny,
oblegid, ebe fe'n fuddugoliaethus, "Y peth i'r
dim! Fe fydd yma ddeilad yn y freehold bach
hwn cyn pen yr wythnos! Wat Emwnt! y machan
i! Ti fyddi'n ŵr bonheddig wedi'r cwbwl!"

Yn ystod y dyddiau dilynol bu gofalu arbennig
ar y myllt tua Blaen-y-Gatar, ac yn fwy arbennig
fyth ar y rhai agosaf i'r Pwll Canol. Cyn hir, nid
yn unig yr oedd y man y syrthiodd y llwddwn'
iddo yn berffaith ddiogel, ond, o gloddio amryw
gerrig allan yr oedd yr agen wedi ei lledu o dan
nengraig a dau esgynbren praff wedi ei sicrhau o'r
un mur i'r llall. Ni allai neb, hyd yn oed o sylwi'n
fanwl, weld fod yno ddim ond a arferai fod, namyn
maen ag ychydig fwsogl arno a wasanaethai fel
drws.

Dyma'r lle a baratodd Wat yn gartref i'r ceiliogod
game, y blysiai ef gymaint am eu cael.