Tudalen:Wat Emwnt.pdf/24

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

PENNOD VI.
Ceiliog y Mynydd.
A HI yn ddydd marchnad, ymhen tua phythefnos
ar ol diogelu o Wat ei aderyn coch yn ei gastell
caerog, gwahoddodd y gwron hwnnw ei gydwas
bach i edrych y "defaid mynydd" gydag ef.
"O'r gore, fe ddwa, Wat, ond i fi droi'r gwartheg
ma's yn gynta'. Peidiwch mynd hebddo i !"
Ac felly y bu.
Trowd y gwartheg allan i gae'r
adladd ac esgynnodd y ddau i'r mynydd.
Wrth ddilyn ohonynt lwybrau'r defaid gydag
ael yr ucheldir, llawer testun ymgom a fu rhwng y
cyfeillion, ond diwedd pob ystori o du Wat oedd y
pwys o fod yn deyrngar y naill i'r llall, neu yng
ngeiriau Wat ei hun, "bod yn true blue ymhopeth."
Erbyn hyn yr oeddynt wedi cylchu ffin eu rhys-
fa," ac yn dynesu at y pyllau ar eu ffordd yn ol i'r
tyddyn drachefn.
66
46
"Heist!" ebe Dai, mi wna'm llw i mi glywed
c'il'og yn canu. Rhyfedd fel ma'r sŵn yn cario
heddi' !"
66
Oti, ma' fe gneud hynny'n wastad ar dywydd
tawel. Ond chlywa's i m'hono, 'falla' mai c'il'og
coch y mynydd glywa'st ti. Ma' llawer o grouse
yma w'ith'a', yn dod ar ol hadau'r grug.'
""
66
Na, Wat, fe wn i sŵn y c'il'og grouse yn eitha'
da un crycllyd iawn yw e'."
"Ia, ond crycllyd yn yr haf yn unig yw e', cofia,
ac yr y'm o fewn mis i Nadolig yn awr. Rhyfedd
fel ma'r flwyddyn yn mynd."