Tudalen:Wat Emwnt.pdf/25

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Gyda hyn yr oeddynt yn nesu at y Pwll Canol
ac â hwy ynghanol eu hysgwrs dyna eto ganiad
ceiliog, ac yn ddigamsyniol y tro hwn, ac megis
wrth eu hymyl. Torrodd Wat allan i chwerthin,
ac ebe fe, "yr o'et yn eitha reit, Dai bach."
gan sobri ei wedd yn sydyn, cydiodd ym mraich y
Ilanc gan ddywedyd, "Yr wyt yn true blue, Dai,
on'd wyt ti?"
Yna
66
(6
Otw, wrth gwrs," ebe hwnnw, ac fe ddylech
wpod 'ny erbyn hyn !"
(6
Wel, estyn dy law! dyma drue blue yn 'i chym-
ryd i, a dere lawr gen' i iti weld y c'il'og game perta'
oddiyma i Fryste. Thwylla's i mohonot ti, wa'th ma'
fa'ng'il'og mynydd he'd, os bu c'il'og mynydd yrio'd."
Yr oedd Dai mewn syndod mawr erbyn hyn,
ond gwnaeth fel yr erchwyd ef, ac a ddilynodd Wat
i waered dros lethr y pwll. Yno, cyn mynd ymhell,
canfu'r bugail yn troi llechfaen mawr i'r naill ochr,
ac yn myned yn ei blŷg i mewn i ryw wagle a oedd
y tu ol i'r drws carreg. Yna ymhen ychydig eiliadau
daeth allan drachefn gan ddwyn yn ei freichiau
geiliog game o goch a du gloyw.
((
Dyma fe !" ebe'i berchennog balch, Beauty
of the Beacons, dyna'r enw, a dyna'r cymeriad
hefyd. Beth am dano, Dai ?"
'Deryn pert, wir," ebe'r llanc, "mae'i bluf yn
dishglirio fel yr our. Ble cesoch chi e'? 'Does
dim un c'il'og ar y fferm yn depig iddo.'
((
"Ha! Ha! fe allwn feddwl hynny," chwarddai
Wat. Dyma drue blue arall iti. Ia, myn brain i,
neu gofyn i wŷr Banwen Byrddin os na chreti di
fi. Fe fu'r Beauty a finna' yno, bwy nos Satwrn
yn setlo petha'."