Tudalen:Wat Emwnt.pdf/26

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

"Wmladd, wrth gwrs?"
"Ia, beth arall o'et ti'n feddwl, nid pregethu ti
ellid fentro. Ond dyna, too bad i fi wilia felna
hefyd. Dere 'nawr, Dai bach! beth am y 'deryn ?
wnaiff e'r tro?"
'Rwy' wedi gweyd ishws 'i fod e'n dderyn pert.
'Rwy'n leico lliw 'i bluf e'n ddigynnig, ond pam yr
y'ch wedi torri peth o'i sparduna"?"
"Wel, gan nag wyt yn gwpod, rhaid i fi weyd
wrthot ti, yn gwmws am yr un rheswm ag wy' i
wedi cropp'o'i ben e'. 'Does dim crib na thacell
gento ti weli-rhy beryglus o lawer, machan i.
Ac o achos fod dur yn g'letach nag asgwrn, dyna'r
rheswm torri bla'n y spurs naturiol a chlymu spurs
dur wrth y bonion. Dai, bachan, wyt ti ddim yn
cofio'r spurs dur o dan y tylatha' r'haf diwetha'?
Ti 'dhunan ffeind'ws y gaflets a dyma nhw ar 'y
ngair i ym mhoced 'y smock i. Etrach fel ma'
nhw'n flito. Diaist i! fe fydd lwc i'r Beauty ar ol
ffito gaflets Moc Bla'n Catlan, bydd, ar f'ened i!
A chan 'n bod yn trafod pwyntia'r deryn teimla'i
goesa' fe, wnei di? pob gewyn fel tant telyn, a'i
wddwg e'r un peth. Hwre! i'r Beauty ar f'encos
i! Gweidda! Dai, bachan, gweidda Hwre!
yn
lle meddwl ta' canu, a darllan a phregethu yw
popeth. Ond honar breit, Dai bach, dim offens,
cofia. Pobun a'i ddileit, on'd i efa ?"
"Eitha da, Wat, ond pe bawn i yn 'ch lle ch'i,
weiddwn i ddim llawer am y c'il'og.'
"Ho! Ho! oes gen't d'hunan, neu wyddot ti
am un a'i maeddiff?"
((
Na, nid hynny o'wn i'n feddwl, Wat, ond 'ch
shars'o rhag ofan í mishtar glywed-dyna gyd."