Tudalen:Wat Emwnt.pdf/27

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

"O, eitha' da, fantam bach, yr wyt yn eitha'
reit. Charwn i ddim iddo fe wpod o bawb. Ma'
'ormod o barch iddo. Ond bachan ! ta'
genny faint o barch sy gen' i i mishtir, ma' genn' i gariad
at y deryn yma. Ac o ran hynny 'weti di ddim ar
dri chynnyg pam y gofynna's iti dd'od genny' i'r
mynydd heddi"."

"Does genny' r'un amcan.'

"Wel, dyma fe i ti-fel bod rhywun arall, a
hwnnw'n un ffyddlon, i estyn tama'd o fwyd i'r
'deryn pe bâi rhwpath yn dicw'dd i fi,-anhap,
pwl o ddolur, neu wn i beth."

"O, wel, 'chelai'r deryn ddim starfo, fe ofalwn i
am hynny, ta' beth ddigwyddai i chi," ebe Dai yn
wresog.

"Dyna ddicon i fi-estyn dy law, Dai bach,
'wy'n dy gretu ar dy air. Gad inni fynd lawr 'nawr,
mae'n mron pryd bwyd."