Tudalen:Wat Emwnt.pdf/28

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

PENNOD VII.
Mynd i'r Plough.
UN bore yn niwedd yr un wythnos, clywai Dai,
am y tro cyntaf erioed, Wat Emwnt yn mwmian
Croesi'r buarth yr oedd ef i'r beudai gan
canu.
ddal i swnio
Eira gwyn ar ben Craig Llyn
Pythewnos cyn Nadolig,
Dyro fawnen ar y tân
A rho' mi gân yn ddiddig.
((
Helo, Wat, be' sy'n bod? yr y'ch yn hapus i
ryfeddu heddi'.
Beth yw enw'r gân ?"
"Dai bach, y ti sy' yna? Wel am otw, bachan,
yn lled hapus heddi'. Ond weli di mo Craig y
Llyn yn ei gap gwyn draw uwchben y Rhicos?
Dyna beth wna'th i fi ganu. Wn i ddim ar glawr
daear beth yw enw'r gân 'chwaith, dim ond un
pennill wn i o honi, er i fi glywed y penillion i gyd
yn Nhafarn Cryw, nos Ffair Waun ddiwetha. Ond
o wilia am y Rhicos, glywaist ti yrio'd sôn am y
Plough ?"
"Arad y'ch chi'n feddwl ?"
"Nace, bachan, ond Tafarn y Plough ar y Rhicos."
"Naddo i'n siwr, a 'dyw hi ddim gwa'nia'th
genn' i am hynny, os ta' tafarn yw e'. Gormod o
dafarna' yr y'ch chi'n wpod am dany' nhw, 'ch
hunan, Wat, os ca' i 'weud 'y meddwl wrthoch chi."
"Hold on, Dai, ar y tafarna' yna! Er mod i'n
'itha' bolon iti 'weud wrtho i be' fynni di. Ond