Tudalen:Wat Emwnt.pdf/29

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

'waratêg yw 'waratêg! Ac fe glywa's i Mr. Winter
yn gweyd y Nadolig diwetha' ta' miwn tafarn y c'as
rhyw Un Mawr iawn ei eni. Ma' tafarna' a tha-
farna', cofia! 'Nawr, pe dwedet ti air crôs am y
'Cwrw Bach' a phetha' felny, fe fyddwn i gyda
thi ar unwaith, ond am y Plough, Hold on! Ac o
ran hynny, nid tafarn y Plough 'rown i'n feddwl, a
bod yn eitha' manwl, ond pentra'r Plough, y Cwm-
hwnt-sydd y nacos iddo. 'Ro'wn i'n wir yn mynd
i ofyn i ti dd'od gyda fi yno nos yfory-i'r pentra
'rwy'n feddwl. Mae cwpwl o fechgyn y Fforest-
o'-Dîn yno, yn meddwl fod ganddi nhw well c'il'og
na'm Beauty i, ac 'rwy'n mynd i ddangos gwell
iddy' nhw.'
66
Dyn'on Fforest-o-Dîn ar y Rhicos! Beth y'ch
chi'n feddwl? 'Ro'wn i'n cretu ta' Cymry oedd
gwŷr Rhicos i gyd."
"Na, ond fel hyn y mae'n gwmws. Ma' mishtir
gwaith mawr Cyfartha-Bacon yw ei enw-wedi
acor gwaith mwyn ha'rn yno, a ma'r Fforesters
wedi d'od gyda fe i w'ith'o o dano. Ma' nhw'n
cyfri'u huna'n yn fechgyn lled h'inif he'd, ac wedi
ala shalans i fi gyda Shon Tai Cypla i dd'od â'm
c'il'og yno nos yfory am gini'r ochor. Ddwi di
gyda fi i helpu cario'r Beauty? Paid gweyd Na!
'Does neb arall yn gwpod ym Mhenderyn fod genny'
'dderyn o gwbwl, a ma isha partner arna' i."
((
Ffordd gwydda' gwyr y Plough fod deryn gyda
chi o gwbwl?"
"O! rhai o honyn' nhw oedd ar Fanwen Byrddin
bythewnos yn ol, pan glir'ws y Beauty'r pit i gyd.
Dere genny', ffrind bach, fe ddown yn ol erbyn
deg yn rhwydd. Paid gweyd Na, wir !"