Tudalen:Wat Emwnt.pdf/30

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Rhwng bodd ac anfodd cydsyniodd Dai, ac erbyn
tywyllu o ddydd byr Rhagfyr yr oedd Beauty
mewn sach yn yr ysgubor yn barod i'w ddwyn i
faes yr ymdrech.
Ymhen awr wedi hynny gwelid y ddeuddyn
yn dringo Rhiw'r Cyrff wrth eglwys henafol
Penderyn fel pe mewn brys mawr. Cyrchu yr
oeddynt i ardal Cwmhwnt, Rhigos, fel ag i gyrraedd
gwesty'r Plough erbyn chwech, sef yr awr benodedig
i ddadorchuddio'r adar yn y pit.
33
66
Cyn cyrraedd ohonynt y lle erchodd Wat ar i
Ddai sefyll yn ol ryw ganllath o'r dafarn, gan gadw
yn
ei ofal y sach â'i llwyth gwerthfawr.
"Paid ti â syflyd o'r man hyn nes delo i'n ol i
dy 'mofyn oedd orchymyn Wat iddo, 'fe a'
i mla'n i weld y lle ac i wrando ar beth glywa' i
cyn dangos fy 'neryn. Ma' hen law fel fi wedi
gweld llawer o betha' od yn dicw'dd wrth fod yn
rhy fyrbw'll. Dyna yw'r fontesh 'n bod yn ddou
yn lle un, ti'n gweld."
Ymhen tua chwarter awr dychwelodd Wat, ac
wedi datgan fod popeth 'byf-bôrd,'
Rho'r deryn
i fi," ebe ef. "'Dos dim rhaid i ti dd'od gyda fi
os nag wyt ti'n dewish, ond paid â bod ymhell o'r
man hyn 'mhen awr a hanner, dyna' gyd. Dyma
fi'n mynd, 'rwy'n siwr dy fod yn dymuno lwc i'r
Beauty bach. Paid ag anghofio !-ymhen awr a
hanner !"
Wedi i Wat fynd oddiwrtho, ni allai'r llanc yn ei
fyw lai na'i ddilyn; ac yn y gwyll hawdd ydoedd
gwneuthur hynny heb dynnu sylw neb. Yn y
modd hwn enillodd Dai dalcen y gwesty, ac wedi
troi o hono'r gongl i'r tu cefn yno yr oedd gody