Tudalen:Wat Emwnt.pdf/31

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

helaeth, a goleuni llachar yn taro allan o'r ffenestri.
Wrth y drws yr oedd amryw o ddynion fel pe'n
anelu am fyned i mewn, a llawer mwy, a barnu wrth
eu sŵn, yn yr ystafell eisoes.

Am na sylwai neb yn neilltuol ar neshad Dai
cyn belled a hyn, mentrodd groesi'r ddôr, gwthiodd
ei hun yn dawel rhwng dau Sais mawr, a gwelai
o'i flaen fath ar fwrdd llydan, oddeutu troedfedd
oddiwrth y llawr gyda chanllawiau isel ar hyd ei
ochrau, a llinellau yn marcio ysgwariau o amryw
faintioli hyd ei wyneb. Yn hongian wrth drawst
mawr y nenfwd, ac yn union uwch ganol y bwrdd
ysgwar yr oedd llestr pres addurnol, gyda dwsin o
ganhwyllau wedi eu goleu a'u gosod arno.

O gylch yr ystafell, mainc wrth bob pared, yr
oedd lle i'r dynion i eistedd, a thua phedair troed-
fedd uwch bob mainc, yr oedd astell ar y pared i
ddal llestri'r yfed.

Clywsai Dai lawer yn ei amser am lawer lle o'r
fath, ond dyma'r tro cyntaf iddo ei weled. Prin
yr oedd wedi ennill iddo ei hun le i eistedd nag y
clywodd lais o ben pellaf yr ystafell yn dywedyd
mewn dull swyddogol: "Gentlemen, we are honoured
this evening by the presence of two gentlemen, well-
known wherever good sport is found. I allude to
Master Anthony Moore, the nephew of our employer,
and Master Thomas Hargreaves, his friend. May
they see a rare set-to this evening. Gentlemen!
please conclude your bets, so that the birds can take
"the pit."