Tudalen:Wat Emwnt.pdf/32

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

PENNOD VIII.
Yr Ornest.
AR y gair bu tawelwch am ennyd, ond, ar ysgwyd
llaw o berchenogion yr adar, a gollwng y ddau
geiliog yn rhydd ar y bwrdd, rhedodd tön lafar o
edmygedd o gylch yr ystafell. Amlwg oedd fod y
Cymry, ymron i gyd, ar ochr Wat, ond y Fforesters,
yn ddieithriad, gydag ambell Gymro (megis yr un
y lladdodd Beauty ei aderyn ef ar Fanwen Byrddin)
o blaid ei wrthwynebydd.

Ond dacw'r ddau aderyn yn crychu plu eu gyddfau
ac yn wynebu ei gilydd yn ffyrnig. Aden a choes,
coes ag aden, y bu hi am ryw ysbaid, gyda gwylio
manwl gan y naill am wendid y llall, a'r ddau yn
hynod gyfartal. Gweithio'n ol a blaen ar hyd y
bwrdd mawr ac eto frathu â'r ysbardun, a thariannu â'r aden, drachefn a thrachefn.

Daliai Dai ei sylw ar ei gyfaill yn hyn oll, ac o
bu ias y frwydr mewn llygad dynol erioed, yn nhrem
Wat yr oedd y pryd hwnnw. Tua diwedd yr
ymosodiad cyntaf dechreuodd y rhegfeydd a'r
Ilwon ddyfod i'r amlwg, yn Saesneg ac yn Gym-
raeg, a'r dorf yn ymysgwyd y ffordd hon a'r ffordd
arall, gan ddilyn ffawd yr ymladd yn anymwybodol
yn eu hystum corff eu hun.

Ar darawiad chwibanwyd yn uchel gan feistr y
chware, cydiwyd yn y ddau aderyn gan y swydd-
ogion a benodwyd i hynny ac yr oedd yr ymgyrch
cyntaf ar ben. Trodd pob gŵr at ei beint ar yr
astell, yfwyd dracht helaeth ohono, a bu siarad
uchel cyn dechreu o'r ail chware.