Tudalen:Wat Emwnt.pdf/33

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Ati eto y ddau geiliog wedi eu hadnerthu yn y
seibiant, ac wedi eu hail-gynddeiriogi gan boen yr
ergydion blaenorol. Nid oedd y dorf mor dawel
yn yr ail-ymosodiad hwn. Clywid "'Nawr Beauty
bach !" a Go it Lydney Boy!" o wahanol fannau,
ond Wat ni ynganai air, mwy na'r Fforestwr gyfer-
byn ag ef, am y tybid hi'n doriad ar foesau'r pit i'r
perchennog ddatgan ei deimlad un ffordd neu'r
llall.

Ond nid oedd yr unrhyw atalfa ar y gweddill
o'r cwmni, a gwelodd Dai lawer dwrn yn cau o dan
rym dylanwad yr ymdrech.

Cyfartal iawn ydoedd hi y waith hon eto, a
llamodd calon y llanc i'w wddf o weled unwaith
ysbardun milain y Lydney Boy yn sefyll allan rhwng
plu gwddf y Beauty. Ond brathu'r plu yn unig a
wnaeth, ac ymladdwyd i ben yr ail ymosodiad yn
chwyrn i'w ryfeddu.

Gwelodd Dai oleu newydd yn llygad Wat tua'r
amser hwnnw, ac amlwg hyd yn oed i'r llanc di-
brofiad ei hun, oedd arwyddion o wanhau'r Lydney
Boy pan seiniwyd y chwibanogl unwaith yn rhagor.
Erbyn hyn yr oedd pobl y tafarn yn dechreu ail
lenwi'r llestri ar yr astell, a chwyddai'r twrw yn
fwyfwy fyth.

"To the Pit," ebe'r llais am y drydedd waith, ac
wele eto y ddau aderyn yn wynebu ei gilydd gyda'r
un dicter ag o'r blaen. Ymladdodd y Lydney Boy
mor wrol ag erioed, ond nid oedd yr un grym yn ei
ergydion na'r un chwimder i'w amddiffyn ei hun,
â'i aden. Ar y llaw arall daliai'r Beauty ati fel pe
yn ffres i'r frwydr. Nid oedd ond un terfyn,
namyn o ddamwain, i'r fath ymladd, a gwelid