Tudalen:Wat Emwnt.pdf/34

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

hynny'n eglur ddigon yn lleferydd ac osgo'r Foresters
a'u cyfeillion Cymreig. Yn ebrwydd daeth y
diwedd gydag ysbardun dur Beauty'r Bannau yn
ymennydd y Lydney Boy.
Trodd Dai ei olwg at Wat i weld sut yr ymag-
weddai yn awr ei fuddugoliaeth, ond y cwbl a ganfu
ef oedd gweled ei hen gyfaill yn taro un llaw yn y
llall ac yn codi a nesu at feistr y chware. Yn ymyl
hwnnw oedd y ddau ddyn ieuainc y soniwyd am
danynt yn nechreu'r ymgyrch.
"Demned fine bird!" ebe'r cyntaf o'r rheiny, ac
"It's ten golden guineas I'll give you for him this
instant," ebe'r llall.
Ond gan estyn heibio iddynt er cymryd ei aderyn
oddiwrth y swyddog, ebe Wat wrthynt yn ei Saesneg
bratiog, "Me no sell."
Taer oedd y gŵr ieuanc, serch hynny, ac yn y
diwedd dywedodd, "At least, give me your address,
for you'll surely change your mind and let me make an
offer later. Here's my card!"
Dywedodd Wat mai yn Nantmaden, Penderyn,
yr oedd ef yn byw, ond pwysleisiodd unwaith eto,
"Me no sell."
"Come along, Anthony," ebe'r gŵr ieuanc cyntaf,
and bide your time. He'll be glad of a fiver later
on. Demned fine bird all the same !"
Pan gyrhaeddodd Wat y drws yr oedd Dai eisoes
wrth ei ochr, ac yn gofyn am gael cario'r Beauty
adre. Ofn dd ar y llanc y byddai i'w hen
fynd, yn afiaith y fuddugoliaeth, i'r gyfeddach
gyda'r mwyafrif o'r cwmni. Ond yn hynny siom-
wyd ef i'r ochr oreu oblegid, wedi troi o Wat at y
gŵr o Fanwen Byrddin a dywedyd rhywbeth wrtho