Tudalen:Wat Emwnt.pdf/35

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

am "bump o'r gloch yfory," dilynodd ef ei gyfaill bach allan i'r awyr agored, ac i waered i'r heol. Cyn mynd nemor o ffordd esboniodd Wat i'w gyfaill y peth a barodd ei ddyfod mor fuan.

Os wy' i'n mynd i ga'l c'il'ocod da rhaid gofalu am dany'n nhw, ac fe fydd isha bwyd mawr ar y Beauty erbyn cyrhaeddwn ni Nantmaden."

Bydd wir," ebe Dai, ac er mai atgas ganddo holl helynt yr ymladd yn y Plough, teimlai ei hun yn cynhesu at ei gydwas o weld ei ofal dros y ceiliog dewr.

Ychydig fu'r siarad ar y ffordd adre namyn unwaith neu ddwy am wrthydri'r Beauty, a'r braw a deimlwyd yn yr ail ymosodiad o weld ysbardun y Lydney Boy drwy blu'r gwddf.

"Dere i'r scupor ucha gyda fi cyn mynd i'r ty, wnei di?" ebe Wat at ddynesu ohonynt at y fferm. Yno tynnwyd yr aderyn allan o'r sach, ac wedi edrych ei niweidiau yn fanwl, torrodd Wat allan mewn dolef mawr, "Bachan! Bachan ! dim ond trwch y blewyn oedd hi !"

Yna gwelodd y llanc fod ysbardun y Lydney Boy wedi torri rhych o glwyf yn wddf y Beauty, a phe bâi ond chwarter modfedd yn nes i mewn byddai wedi darfod am dano. Llongyfarchodd Dai ei gyfaill o galon ar y waredigaeth fawr, a cheisiodd yr hen was guddio ei gyffro ei hun trwy frysio i fwydo'r aderyn â'r mângig a baratoisid ar ei gyfer cyn cychwyn i'r Plough.

Ar ol gosod y ceiliog yn ddiogel dros y nos, nid oedd dim ychwaneg i'w wneuthur ond mynd i'r ty a cheisio ymddangos nad oeddynt wedi bod nac yma nac acw, namyn gyda gorchwylion y fferm. </poem>