Tudalen:Wat Emwnt.pdf/36

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Cyn cyrraedd ohonynt y ty, teimlai Dai ei fod
rywfodd wedi bod yn anheyrngar iddo ef ei hun yn
holl weithrediadau'r noson honno, ac ebe fe wrth
ei gydwas, "Edrychwch yma, Wat. Mae'n bryd i
i ni ddeall ein gilydd. 'Rwy' wedi gwneud popeth
a addewais i chi ynglŷn â'r wmladd yma, ac fe
gatwaf f'addewid eto i ofalu am Beauty pe digwyddai
rhwpath i chi. Ond hyn 'rwy'n weyd rhaid i
chi b'idio gofyn i fi dd'od i'r Plough nac i unman
arall tepig iddo yto, wa'th ddwa i ddim, a 'rwy'n
cretu ta' mishtir sy'n iawn, ac nag o's dim da i
dd'od o ddoti dou dderyn diniwed i wmladd am 'u
bywyd am fod Duw wedi rhoi plwc di-ild'o iddi
nhw.'
"Fel y mynnot, Ranter bach, ond ma' pawb yn
'i 'neud e, hynny yw pawb ond y Ranters.'
"Wel, cyfrifwch chi fi fel Ranter ynte, ac yna fe
fydd popeth yn iawn."
(C
O'r gora', fe gofia i beth wyt ti'n 'weyd, ond
gad i ni fynd mewn n'awr-fe glywa's Mali yn
galw' swper' pan o'wn ni'n
y scupor ucha."